Taith Dros Fywyd 2017

Gwennan Jenkins
gan Gwennan Jenkins
Cerddwyr Taith Dros Fywyd 2017 Plwyf Llanwenog (rhai yn absenol o'r llun)
Cerddwyr Taith Dros Fywyd 2017 Plwyf Llanwenog (rhai yn absenol o’r llun)

Trefnwyd taith lwyddiannus arall ar y 23ain o Ebrill, sef y bedwaredd daith o’r bron i godi arian at Sefydliad Aren Cymru. Eleni dechreuwyd o Ysgol Llanwenog ac aed am daith o 4.5 milltir o gwmpas Brynteg, Rhuddlan, Plas y Dolau, Drefach a nôl i’r Ysgol am gawl blasus a baratowyd gan y Cynghorwyr Cymuned.

Diolch i’r Brifathrawes a’r Gogyddes, Eleri Davies am agor yr ysgol a helpu gyda gweini’r bwyd.

Ymunodd hanner cant o bobl o bob oed gyda ni ar y daith a chasglwyd dros £600 tuag at elusen Sefydliad Aren Cymru. Bore bendigedig o ddysgu am ddarn bach arall o’n Plwyf hanesyddol!

Bu criw o Blwyf Pencarreg yn cerdded hefyd yn ardal Cwmann o dan arweiniad Philip Lodwick a chasglwyd tua £450 tuag at yr yn achos.