Teithiau Tramor CFfI Cymru

gan Elliw Dafydd

Mis Tachwedd, mis y teithio!

Rhai o ymgeiswyr 2017
Rhai o ymgeiswyr 2017

Ym misoedd y gaeaf, mae’n amser grêt i edrych nôl ar yr antur ces i yn yr haf drwy raglen y ffermwyr ifanc ac yn bwysicach fyth … gweld ble caf fynd nesaf! Un o brif atyniadau’r Ffermwyr Ifanc i mi yw’r Rhaglen Rynwladol. Mae’n rhoi cyfle arbennig i aelodau grwydro’r byd gan fanteisio ar gysylltiadau eang CFfI Cymru. O Ffindir i Uganda, o Alaska i’r Almaen, mae rhywbeth at ddant pawb.

Nid yw hi’n broses anodd i ymgeisio. Bu rhaid i ni fel ymgeiswyr lenwi ffurflen tair tudalen o hyd oedd yn gofyn amryw gwestiynau, am y gweithgareddau o fewn y clwb i’r rheswm eich bod am deithio. Y rhan galetaf o’r broses yw penderfynu ble ydych chi am fynd! Mae cymaint i’w ddewis ohono! Mae teithiau amaethyddol, gwleidyddol, addysgiadol ond hefyd teithiau i’r rhai sydd eisiau ‘jolihoit’! Ond na phoener, gallwch drio am gymaint o deithiau ac rydych eisiau!

Ymgeiswyr llwyddiannus 2015
Ymgeiswyr llwyddiannus 2015

Ar y 12fed o Dachwedd, roedd hi’n ddiwrnod dethol cynrychiolwyr i’r teithiau. Eleni roedd mwy yn ymgeisio nag erioed a nifer am y tro cyntaf!  Mae’r diwrnod yn gyfle i bawb ddod i wybod fwy am y teithiau hefyd. Mae paneli cyfweld gwahanol i bob taith, felly gallwch gael sawl cyfweliad gwahanol ar yr un diwrnod! Gofynnwyd nifer o gwestiynau amrywiol gan y panelwyr o ‘sut fyddech chi’n disgrifio’r mudiad i ddieithryn?’ i ‘pa deitl cân fyddech chi’n defnyddio i ddisgrifio eich hun?’

Dyma restr o’r cynrychiolwyr fydd yn teithio o Geredigion yn 2018:

Rali Ewropeaidd, Yr Alban  Elin Haf Jones, Llanwenog a Gwenan Davies, Mydroilyn

Seminar yr Haf, Hwngari Angela Evans, Tregaron a Lowri Pugh-Davies, Bro’r Dderi  

Seminar yr Hydref, Ffindir Aled Davies, Caerdwedros

Gogledd Iwerddon Caryl Morris, Llanddeiniol

Ffindir Lowri Mair Jones, Lledrod

Colorado, UDA  Elliw Dafydd, Bro’r Dderi

Patagonia 2019 Nest Jenkins, Lledrod ac Elin Haf Jones, Llanwenog

Hyd yn oed os na chawsoch eich dewis y tro hwn, triwch eto! Mae’n gyfle da i gael ymarfer sgiliau cyfweliad ac yn siŵr o roi hwb i chi ar gyfer y dyfodol!