Tîm Swyddogion Newydd Ysgol Bro Pedr

gan Alwyn Evans

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cafodd tîm newydd o Brif Swyddogion eu hapwyntio yn Ysgol Bro Pedr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-2018. Wedi’r camau apwyntio, sef llenwi ffurflen gais, etholiad ymysg disgyblion Blwyddyn 12 ac athrawon a chyfweliad gyda’r panel apwyntio, penderfynwyd apwyntio Hari Butten fel y Prif Fachgen ac Alpha Evans fel y Brif Ferch, a’u dirprwyon; Manon Williams, Ffion Evans, Twm Ebbsworth a Robert Jenkins. Mae’r tîm swyddogion yn ymroi’n fawr iawn at fywyd yr ysgol drwy gydol y flwyddyn, gan gynrychioli’r ysgol mewn sawl digwyddiad a chyflawni dyletswyddau wythnosol, yn fewnol ac yn allanol.

 

Y Prif Swyddogion – (O’r chwith) Manon, Ffion, Alpha, Hari, Robert a Twm.

Aelod gweithgar iawn o’r ysgol yw Hari, y Prif Fachgen, sy’n byw yng Nghellan, ac yn llwyddiannus iawn ym maes bowlio lawnt. Mae Hari wedi ennill cystadleuaeth unigol dan ddeunaw’r sir 4 blynedd yn olynol, a chafodd ei gap gyntaf i Gymru i’r tîm dan ddeunaw llynedd. Cydweithiodd Hari gydag aelodau eraill o dîm Teifi wrth iddynt arwain Teifi i fuddugoliaeth yn Eisteddfod yr Ysgol yn gynharach eleni fel un o’r is-gapteiniaid.

Aelod talentog iawn o’r chweched yw Alpha, y Brif Ferch, o Gwmann, sy’n adnabyddus iawn am chwarae’r piano. Mae Alpha wedi sefyll gradd 8 piano a chymrodd ran mewn ‘masterclass’ Cerddor Ifanc Dyfed llynedd. Dros y blynyddoedd mae Alpha wedi cyfrannu’n ddiddarfod a diwyd at yr ysgol trwy eisteddfodau’r ysgol ac yng ngweithgareddau’r Clwb Cymraeg. Mwynha Alpha gymdeithasu hefyd, a chwrdd â phobl newydd a datblygu sgiliau!

Merch o Bencarreg yw Manon, sy’n ymddiddori’n fawr iawn mewn celf a cholur. Mae gwaith creadigol arbennig Manon ym maes Technoleg wedi ennill gwobr arloesol CBAC iddi, ynghyd ag ennill lle ar brosiect ‘Criw Celf: Codi’r Bar’ yng Ngheredigion llynedd. Mae Manon hefyd wedi cael ei dewis i fynd i Batagonia ym mis Hydref gyda thaith blynyddol yr Urdd, ar ôl gweithio’n ddiflino fel Llysgennad yr Urdd yn yr ysgol.

Aelod cyfeillgar iawn o’r chweched yw Ffion sydd â diddordeb mawr mewn cymdeithasu. Enillodd Ffion y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus y C.Ff.I ar lefel sirol a mynd ymlaen i gynrychioli’r sir ar lefel Cymru drwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Yn ogystal â’r C.Ff.I, mwynha Ffion helpu gyda’r busnes teuluol yn Llanybydder a Llanbed.

Bachgen brwdfrydig o Lanwnnen yw Twm, sy’n adnabyddus iawn am ei gamp anhygoel o ennill y gadair a’r goron yn Eisteddfod yr Ysgol eleni. Mae Twm yn actor brwd ac yn mwynhau ysgrifennu’n greadigol wrth iddo ennill cystadlaethau ysgrifennu sgriptiau ar gyfer sgetsau gyda’r C.Ff.I. Enillodd Twm y gystadleuaeth Barddoniaeth dan ddeunaw Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni hefyd.

Bachgen talentog yw Robert o chweched yr ysgol. Mae Robert yn ymgeisydd llwyddiannus sydd wedi gweithio’n anhygoel o galed ar gyfer y rhwydwaith Seren. Yn ogystal, mae Robert hefyd yn ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer Gwobr Arweinyddiaeth Ieuenctid y Rotari eleni, lle datblygodd ei sgiliau fel arweinydd wrth gael hwyl a gwneud cysylltiadau. Ymddiddora Robert mewn cic bocsio hefyd.

Yn union fel arwyddair yr ysgol – ‘A fo ben bid bont’ – gallwn ymddiried yn y chwech y byddant yn bont i ddisgyblion yr ysgol, ac yn arweinwyr cadarn a brwdfrydig. Llongyfarchiadau mawr i’r chwech ohonynt, a dymuniadau gorau iddynt ar gyfer blwyddyn brysur a phleserus iawn ym Mro Pedr!