TESTUNAU’R ADRAN LENYDDOL
Eisteddfod Rhys Thomas James, Pantyfedwen, Llambed
Awst 26-28, 2017
Beirniaid: Y Prifardd Dylan Iorwerth a Karen Owen
Y Babell Lên (gan gynnwys y Talwrn): Festri Shiloh, nos Lun, 28 Awst, am 7 o’r gloch
1. Cystadleuaeth y Gadair.
Englyn yr un i unrhyw saith Gŵyl
Gwobr: Cadair Fechan a £200
2. Cystadleuaeth y Goron.
Casgliad o gerddi rhydd (dim mwy na 100 llinell) ar y testun ‘Cainc’ neu ‘Ceinciau’
Gwobr: Coron a £200
3. Cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith.
Dau ddarn o ryddiaith mewn ffurfiau gwahanol ar y thema ‘Lleidr’ neu ‘Lladron’
(y cyfanswm heb fod yn fwy na 4,000 o eiriau)
Gwobr: Y Fedal a £200
4. Cystadleuaeth y Gadair i rai dan 25 oed.
Cerdd ar y testun ‘Gwên’
Gwobr: Cadair Fechan a £150
5. Tlws Rhyddiaith Ieuenctid i rai dan 25 oed.
Darn o ryddiaith ar y testun ‘Esgus’
Gwobr: Tlws Ieuenctid a £150
6. Englyn.
Testun ‘Map’
Gwobrau: 1. £50 2. £30 3. £15
7. Telyneg.
Testun ‘Porthor’
Gwobrau: 1. £50 2. £30 3. £15
8. Cerdd i’w chyflwyno gan grŵp o lefarwyr
Testun: Agored
Gwobrau: 1. £50 2. £30 3. £15 Y gwobrau yn rhoddedig gan Gôr Llefaru Sarn Helen
9. Cywydd.
Testun: ‘Gwennol’
Gwobrau: 1: £50 2. £30 3. £15
10. Rhyddiaith. Casgliad o brofiadau neu straeon digri.
Testun: ‘Troeon Trwstan’ (dim mwy na 1,500 o eiriau)
Gwobrau: 1. £50 2. £30 3. £15
11. Soned.
Testun: ‘Llosgi’
Gwobrau: 1. £50 2. £30 3. £15
12. Cystadleuaeth i ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6
Stori ‘Bai ar Gam’
Gwobrau: 1. £30 2. £20 3. £10
13. Cyfansoddi Emyn i’w ddefnyddio mewn gwasanaeth crefyddol gan fudiad cenedlaethol
Gwobr: £100 (ni rennir y wobr)
14. Talwrn y Beirdd.
Disgwylir i’r tîmau gofrestru erbyn dydd Mawrth, 15 Awst 2017. Dim llai na 3 aelod ymhob tîm. Gwobrau: 1. £150 a Tharian Sialens Goffa Jim Evans; 2. £100; 3. £50. (Rhoddir £20 i bob tîm arall sy’n cystadlu).
I gofrestru, cysylltwch ag ysgrifennydd y Pwyllgor Llên, Gillian Jones: 01570 480424 neu gillianj249@gmail.com.
*****************************************************************
AMODAU
1.Rhaid i bob cynnig llenyddol fod yn llaw’r Pwyllgor Llên erbyn dydd Gwener, 11 Awst 2017. Er tegwch i’r Beirniaid ni dderbynnir cynigion ar ôl y dyddiad hwn ac ni dderbynnir cynigion drwy e-bost.
Danfoner pob cais, ynghyd â ffugenw ac amlen sydd yn cynnwys eich enw, eich e-bost (os oes un gennych), a’ch cyfeiriad a rhif ffôn, at Gadeirydd y Pwyllgor Llenyddol: Elin Williams, Y Garn, Cwm-ann, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion SA48 8EL
2. Traddodir y beirniadaethau yn y Babell Lên yn Festri Shiloh am 7 o’r gloch, nos Lun, 28 Awst, heblaw am gystadlaethau rhif 1, 2, 3, 4, 5 ac 13 a draddodir oddi ar lwyfan yr Eisteddfod.
3. Atelir y wobr yng nghystadleuaeth y ddwy Gadair, y Goron, y Fedal Ryddiaith a’r Tlws Ieuenctid oni bydd y buddugol yn bresennol yn yr Eisteddfod.
3. Byddwn yn danfon eich beirniadaethau ar e-bost oni nodwch yn wahanol. Os ydych yn dymuno derbyn beirniadaeth ysgrifenedig drwy’r post, dylid nodi hynny wrth gystadlu a chynnwys amlen wedi’i stampio.
4. Rhaid i’r cyfansoddiadau i gyd fod yn Gymraeg, yn waith dilys y cystadleuydd, wedi’u hysgrifennu’n eglur a threfnus neu wedi’u teipio, ar un ochr yn unig i ddalen A4, â’r tudalennau wedi’u gosod yn y drefn gywir.
5. Y ffugenw yn unig i’w roi ar y cyfansoddiad/au. Rhaid amgάu gyda phob cyfansoddiad amlen dan sêl yn cynnwys enw a chyfeiriad y cystadleuydd ac ar ei chlawr deitl, rhif y gystadleuaeth a ffugenw’r cystadleuydd.
6. Bydd hawlfraint yr holl gyfansoddiadau buddugol yn eiddo i Bwyllgor yr Eisteddfod.