Cynhaliodd Ford Gron Llanbedr Pont Steffan gyfarfod blynyddol cyffredinol ar nos Iau 6ed Ebrill yn y Royal Oak, gyda chinio yn dilyn yng Ngwesty’r Grannell, Llanwnnen yn hwyrach ymlaen. Roedd yn ddiwedd i flwyddyn Rob Phillips fel cadeirydd a Rhys Bebb Jones fel Llywydd. Trosglwyddwyd yr awenau i’r cadeirydd newydd, Matthew Cobb a’r Llywydd newydd, Aled Davies. Mae Andrew Davies yn cymryd rôl Is-Gadeirydd, gyda Kyle Erickson yn Ysgrifennydd, Lee Drury yn Ysgrifennydd Digwyddiadau Cymdeithasol a Ryan Jones yn parhau fel Trysorydd.
Roedd y flwyddyn a aeth heibio yn un llwyddiannus a phrysur iawn, gyda digwyddiadau arferol fel yr Arddangosfa Tân Gwyllt, Coed Nadolig yn y dref a’r Ŵyl Gwrw a Seidr. Ar ddydd Sadwrn y Pasg cynhaliwyd Helfa Wyau Pasg yn y dref am y tro cyntaf, gyda 40 o blant yn cymryd rhan. Roedd yn gyfle i ddenu pobl i’r dref ac i’w hannog i grwydro o gwmpas, ac wrth gwrs cafodd pob plentyn wy Pasg siocled. Diolch yn fawr i Sainsbury’s am noddi’r wyau Pasg.
Roedd y flwyddyn 2016-17 yn un bwysig i’r Ford Gron yn Llanbedr Pont Steffan wrth inni ddathlu ein pen-blwydd yn 50 oed. Fel rhan o’r dathliadau, cynhaliwyd Cinio Siarter 50 yn Neuadd Fwyta Llwyd Thomas yn y Brifysgol ar nos Fawrth 18fed Ebrill. Daeth nifer o gefnogwyr a chyn aelodau’r Ford Gron, gan gynnwys rhai o’r aelodau sefydlu, ynghyd i ddathlu gyda ni, ac roedd yn gyfle da i ddal i fyny gyda hen ffrindiau. Y gŵr gwadd oedd y dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens, ac roedd ei araith yn hynod diddorol – cymysgedd o atgofion, straeon rygbi a hiwmor. Elusen y noson oedd Ambiwlans Awyr Cymru, a rhwng raffl ac arwerthiant, codwyd dros £1,000 tuag at yr achos. Cymerodd nifer o aelodau presennol a blaenorol y Ford Gron ran yn y digwyddiad, ac yfodd bawb lwnc destun i 50 mlynedd arall o hwyl, brawdgarwch a chodi arian.