Y Dwbl Cenedlaethol i Huw

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Llun gan Delyth Williams
Llun gan Delyth Williams

Bu’n haf llwyddiannus iawn unwaith eto eleni i Huw Evans o Gwrtnewydd yn ein gwyliau cenedlaethol.

Yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf enillodd prif bencampwriaeth Defaid Llanwenog gyda’i hwrdd mewn oed, ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn ar ddechrau Awst cafodd y wobr gyntaf am ysgrifennu pump o erthyglau gwahanol ar gyfer papur bro.

Llun gan Delyth Williams
Llun gan Delyth Williams

Mae Huw, sy’n ffermio yn Alltgoch, Cwrtnewydd yn adnabyddus am ei braidd o Ddefaid Llanwenog ac wedi ennill yn y Sioe Fawr dros y 23 blynedd diwethaf.  Dywedodd Meinir Green, y beirniad eleni yn nosbarth Defaid Llanwenog bod ei hwrdd wedi cyrraedd y brig oherwydd “bod e’n sefyll yn sgwâr ar bedair coes, bod ganddo gorff da, pen du ac yn dilyn yn rhinweddau’r brîd.”

Yn ogystal ag amaethu fel galwedigaeth, mae Huw yn llenor o fri hefyd.  Caiff lwyddiant yng nghystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol.  Tipyn o record mae’n siŵr i unrhyw Gymro, gan ennill yn gyson yn nwy brif ŵyl Cymru.

Ysgrifennodd gasgliad o erthyglau gwahanol eu maes a’u naws a hynny am arwyddion tywydd, hen gymeriad lleol, cymharu prisau dros y blynyddoedd, macsu cwrw yn y fro a hen ddywediadau’r fferm a ddefnyddir i ddisgrifio pobl. Dywedodd y beirniad Catrin Withers “Ysgrifennodd erthyglau ardderchog a go amrywiol.”  Ychwanegodd “Ysgrifenna’n dda mewn tafodiaith rywiog ond dealladwy.”

Mewn cystadleuaeth ag ugain ymgeisydd, casgliad o erthyglau Huw a roddodd y boddhad mwyaf i Catrin.  Ardderchog wir.  Gobeithio y gallwn eu darllen hwy ym Mhapur Bro Clonc cyn bo hir.