Y Prif Weinidog yn dod i Lanbed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ymhen wythnos fe fydd Prif Weinidog Cymru yn dod i Lanbed i gynnal sesiwn holi ac ateb ar gampws y brifysgol.

Mae’n rhan o gyfres ‘Cyfarfod Carwyn’ lle mae wedi teithio i bob cwr o Gymru i gynnal cyfarfodydd.

Y tro hwn mae’n gwahodd pobol o’r ardaloedd cyfagos i godi materion sy’n effeithio ar eu cymunedau.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi teithio ar hyd a lled Cymru i glywed barn pobol yn eu cymunedau lleol ac i ateb cwestiynau maen nhw’n ysu am eu gofyn,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yn Llanbedr Pont Steffan.

“Rwy’ eisiau gweld cynifer o bobol â phosibl yn dod i’r Hen Neuadd. Felly, os oes gennych chi gwestiwn i mi, os ydych eisiau codi ymwybyddiaeth am broblem sy’n effeithio ar eich cymuned, neu os oes gennych syniad fyddai’n gwneud eich ardal leol yn lle gwell i fyw ynddi – dewch draw!

Y manylion…

Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Hen Neuadd, Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar nos Iau, Mehefin 22 rhwng 5.30 a 7.30yh.

Mae modd gofyn cwestiwn ar y noson, neu ei anfon o flaen llaw drwy ebostio cabinetcommunications@wales.gsi.gov.uk neu drwy Twitter gan ddefnyddio @fmwales a’r hashnod #cyfarfodcarwyn.

Mae’r digwyddiad am ddim, ond mae’n rhaid cofrestru o flaen llaw drwy ddilyn y ddolen hon.