Yr Ail Benwythnos Dartiau Llambed 2017

Bedwyr Davies
gan Bedwyr Davies

Dros y penwythnos mi wnaeth cwmni hybu Bishop of Bedlam gynnal yr ail Benwythnos Dartiau Llambed yn y Clwb Rygbi. Ar y nos Wener naeth cyn Bencampwyr y byd, Andy “The Viking” Fordham a Trina”The Golden Girl” Gulliver chware gemau arddangosfa yn erbyn y gynulleidfa, rhai lleol a rhai oedd wedi dod o dros y Deyrnas Unedig.

Ar y Sadwrn oedd twrnament agored a naeth chwarewyr o’r safon uchaf ddod i chware. Naeth 53 chware, ac ar y brig oedd Mark Layton o Landrindod yn curo Tony Bradley o dde Cymru yn y rownd derfynol mewn gêm fyddai wedi bod un o’r safon i’w wylio ar deledu.

Mi naeth y penwythnos roi croeso i Tracy Fletcher o elusen Prostate Cancer UK a chafodd dros £2500 ei godi i’r elusen, gan ddod â chyfanswn mae Bishop of Bedlam Promotions wedi codi i’r elusen am y flwyddyn i dros £3,700.

Hoffwn ddiolch yn fawr i noddwyr y Penwythnos: Richard Jarman, True Potential Wealth Management; Philip Jones Financial Solutions; Davies & Jenkins Fencing Contractors; Royal Oak, Llambed; Brondeifi Garage Ltd; Cwmni Radio “The Rock Show”; Geraint Williams Rhosbedw Garage; Tony Hatcher, Clwb Rygbi Llambed; Tom Allen, Siop Dartiau “Love the Darts”; John Taylor Cwmni Pies R Us; Teifi Forge Ltd.

Mae’r trydydd penwythnos Dartiau Llambed wedi ei gadarnhau ar gyfer y 4ydd a 5ed o fis Mai 2018 lle bydd y dre yn rhoi croeso i Gyn Bencampwyr y byd x 3 Martin “Wolfie” Adams. Tocynnau ar werth yn fuan.