Cyflwynwyd arholiadau TGAU am y tro cyntaf yn 1988, ac eleni trefnir aduniad o ymgeiswyr cyntaf Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan.
Cynhelir aduniad i’r disgyblion hynny a ddechreuodd yn yr ysgol yn 1983, yng Nghlwb Rygbi Llanbed ar y 24ain Chwefror, ac mae’r trefnwyr yn ceisio cysylltu â phawb.
30 mlynedd ers sefyll yr arholiadau newydd dylai’r cyn ddisgyblion fod o gwmpas 45 i 46 oed erbyn hyn. Mae nifer ohonynt dal i fyw yn nalgylch yr ysgol, ond mae llawer wedi symud bant a rhai hyd yn oed wedi colli pob cyswllt. Er bod gwefannau cymdeithasol yn ffordd hwylus o gysylltu, mae’r trefnwyr dal i geisio dod o hyd i ambell un.
Cyflwynwyd Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwch yn yr wythdegau i ddisodlu yr hen lefel O a’r TAU (CSE). Dechreuodd y cyrsiau yn 1986 a chynhaliwyd yr arholiadau yn Haf 1988. Prif nod yr arholiadau newydd oedd darparu ar gyfer pob gallu a rhoi dewis o bapurau ar haenau gwahanol. Yr hyn oedd yn nodedig hefyd oedd yr elfen o waith cwrs ym mhob pwnc bron.
Mae’r ymgeiswyr cyntaf hynny yn rhieni erbyn hyn a’u plant wedi sefyll TGAU hefyd, ac ambell un yn dad-cu a mam-gu hyd yn oed. Mae’n hysbys bod llawer yn rhedeg eu cwmnioedd eu hunain erbyn hyn, rhai yn gweithio yn y byd addysg ac eraill mewn diwydiant.
Os y gwyddoch am rhywun a ddylai fynychu’r aduniad, cofiwch ddweud wrthynt. Byddai mor braf petai llawer o’r cyn ddisgyblion yn gallu cwrdd eto tra bod y rhan fwyaf dal ar dir y byw. Mae’n rhyfedd i le mae pawb wedi mynd ar lwybrau bywyd, a hynny gyda’r sail gadarn a roddwyd iddyn nhw gyda’r astudiaethau TGAU yn yr hen Ysgol Uwchradd.
Y dair weithgar sy’n trefnu yw: Meinir (Ffrwd), Tegwen (Alltgoch) ac Ann (No 1). Gellir cysylltu ag unrhyw un ohonynt am fanylion neu i brynu tocyn.
Ceir mwy o fanylion hefyd ar grŵp facebook yr aduniad.