Cyfle i gyfrannu at un o brif eisteddfodau Cymru

Delyth Phillips
gan Delyth Phillips

Fel sawl digwyddiad arall, mae Eisteddfod Llambed – neu Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan, a rhoi iddi ei henw’n llawn – yn manteisio ar haelioni pobol a busnesau a sefydliadau lleol.

Mae Eisteddfod Llambed yn un o eisteddfodau mwyaf Cymru, yn rhannu dros £8,000 mewn gwobrau i dalentau lleol a chenedlaethol a ddaw i gystadlu dros Ŵyl y Banc mis Awst. Daw rhan helaeth o’r nawdd gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen (sy’n rhoi i’r eisteddfod ei henw wrth gwrs). Ond ers ei sefydlu dros hanner canrif yn ôl erbyn hyn, mae’n dibynnu yn drwm ar garedigrwydd ffyddloniaid a phobol sydd am weld yr ŵyl yn cael ei chynnal yn flynyddol.

Ydych chi am noddi’r Eisteddfod eleni, 25-27 Awst? Fe gewch eich enw yn y rhaglen; dyw hi ddim yn rhy hwyr i helpu i gynnal yr Eisteddfod, nid yw’r rhaglen wedi mynd i brint eto.

Neu os nad ydych am helpu yn ariannol, tybed a fyddech chi’n licio ymuno â’r criw gweithgar sy’n helpu i stiwardio yn ystod y penwythnos? Does dim rhaid i chi ymrwymo i ddod ar y dydd Sadwrn, Sul a’r Llun, na chwaith bod yn gaeth i’r neuadd drwy’r amser! Mae ’na dîm bywiog – o ddynion a merched, yn ifanc ac yn ifanc eu hysbryd! – yn gwirfoddoli i stiwardio wrth y drysau, cofnodi wrth y ddesg, ac yn stiwardio mewn rhagbrofion.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r bwrlwm ar benwythnos Gŵyl y Banc Awst, neu os hoffech chi gyfrannu mewn unrhyw fodd, byddem ni fel pwyllgor yn ddiolchgar. Croeso i chi hala gair ata’ i fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith – delyth.gwenllian@gmail.com