Arddangos ‘Beibl Jemima’ yn Llanbed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Beibl Llanwnda

Beibl Llanwnda i’w weld yn y brifysgol am fis

Yn Llanbed y mis hwn mae Beibl hynafol, sy’n dyddio’n ôl i 1620, ar gael i’r cyhoedd ei weld – Beibl oedd â rhan mewn stori antur fawr.

Mae ‘Beibl Llanwnda’ yn rhan allweddol o hanes glaniad y Ffrancwyr yn Sir Benfro yn 1797 pan gawson nhw eu trechu gan drigolion lleol, a Jemima Fawr (Jemima Nicholas) yn eu plith.

Cafodd yr eglwys yn Llanwnda yn Sir Benfro ei rheibio gan y milwyr Ffrengig ac, er na chafodd y Beibl ei ddinistrio’n llwyr, mae olion llosgi ar ymylon y tudalennau, a nifer o dudalennau ar goll.

‘Rhan o stori Llanwnda’

Ar hyn o bryd mae Beibl Llanwnda yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Roderic Bowen ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbed – a hynny ar ôl cwblhau gwaith cynnal a chadw arno.

Yn ôl Ruth Gooding, llyfrgellydd sy’n arbenigo mewn llyfrau prin, roedd y llyfr mewn cyflwr “gwael iawn” pan ddaeth i law’r llyfrgell, a hynny oherwydd iddo gael ei storio o dan “amodau gwael” yn yr eglwys.

“Mae Beibl Llanwnda yn llyfr hynod o bwysig, ac yn rhan o stori’r plwyf bychan ger Abergwaun,” meddai Ruth Gooding.

“Dw i wedi siarad gyda ficer y plwyf, ac mae hi’n dweud bod nifer o bobol wedi gofyn i gael gweld y Beibl. Mae’n rhan o stori Llanwnda – yno y dylai fod.”

Fe fydd yn dychwelyd i Eglwys Sant Gwyndaf yn Llanwnda ger Abergwaun ddiwedd y mis – ar ôl ei gyfnod yn ardal Clonc.