Beirdd lleol yn cyhoeddi llyfr

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Pum o'r beirdd ar lwyfan Festri Brondeifi
Y beirdd ar y llwyfan; o’r chwith: Megan Richards, Gillian Jones, Aerwen Griffiths, Eirwyn Williams a John Rhys Evans

Mae gan ardal Clonc ei llyfr barddoniaeth ei hun ar ôl lansio cyfrol arbennig yn Llanbed neithiwr (nos Iau, 22 Mawrth).

Roedd Festri Brondeifi’n llawn wrth i feirdd a chefnogwyr ddod at ei gilydd i ddathlu cyhoeddi ‘I Gofio’r Gaeafau’ – casgliad o gerddi gan ddosbarth barddol y Prifardd Idris Reynolds.

Pobol leol yw pob un o’r beirdd sydd â gwaith yn y gyfrol a’r cyfan yn bosib oherwydd yr arian a adawodd un ohonyn nhw, y diweddar Ann Rhys, yn ei hewyllys.

‘Ewyllys’ – arian a llawer mwy

Roedd y gair “ewyllys” yn llawn ystyr, yn ôl Euros Lewis, cyflwynydd y noson lansio.

“Mae’r rhodd ariannol yn galluogi rhywbeth i ddigwydd ac yna’r rhodd o weledigaeth sydd yn deisyfu bod rhywbeth yn digwydd,” meddai.

Ac fe newidiodd ychydig ar linell enwog R. Williams Parry wrth ddweud mai “cyd-ddyheu a’i cyhoeddodd hi” – gwaith y dosbarth gyda’i glydd oedd wedi arwain at y gyfrol a phob dimai o’r arian gwerthiant yn mynd at Ymchwil y Galon, Ceredigion.

Amrywiaeth

Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth fawr o waith, gan gynnwys sawl cerdd gan Ann Rhys ei hun ac mae yno delynegion, limrigau, caneuon, penillion, cywyddau ac englynion.

Mae un englyn gan un o nofelwyr mwya’ Cymru, Islwyn Ffowc Elis, a oedd yn un o aelodau cynnar y dosbarth.

Fe soniodd Idris Reynolds fel yr oedd y dosbarth wedi’i ddechrau gan Roy Stephens o Brifysgol Aberystwyth ac yntau wedi cymryd yr awenau pan fu Roy Stephens farw.

Fe fu’n rhaid iddyn nhw symud o Goleg Llanbed oherwydd mai cwrs dan adain Aberystwyth oedd e ac yn y diwedd fe gawson nhw eu “cartref ysbrydol” yn Festri Brondeifi.

Fe fu llawer o hel atgofion yn ystod y lansio a’r teitl yn atgoffa pawb mai tros y gaeaf yr oedd y dosbarth yn cwrdd.

Roedd pump o’r beirdd yno i dderbyn y copïau cynta’ o’r gyfrol gan Roy Davies, gweddw Ann Rhys.

Mae I Gofio’r Gaeafau ar gael o Siop y Smotyn Du am £5.