Beth yw cyfrinachau un o Ddirprwyon y CFfI?

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Lowri

Mae Lowri-Pugh Davies o Langybi yn un o ddirprwyon CFfI Ceredigion eleni, a hi sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn.

Beth yw ei harbenigedd hi?  Pa mor wyrdd yw hi?  Pa fath o berson sy’n mynd o dan ei chroen hi? Pwy oedd y dylanwad mwyaf arni?  Ceir yr atebion i gyd a mwy yn rhifyn Mehefin Clonc.

Rheolwraig Canolfan Rhiannon yn Nhregaron yw Lowri ond wyddech chi mai un o’r Spice Girls oedd hi eisiau bod ar ôl tyfu pan oedd yn blentyn?

Y lle mae hi mwyaf hapus yw ar y soffa gyda Jim y ci, gyda phaned o de a siocled ond mae’n llwyddo i ymlacio wrth fynd am ‘run’.  Byddai’n hoffi dysgu sut i gneifio’n dda, a’r lle y gwnaeth orwario mwyaf oedd sêl hyrddod y Trallwng!

Dyna i chi flas o atebion Lowri.  Gwnewch yn siwr eich bod yn prynu copi diweddaraf Clonc er mwyn darganfod llawer iawn mwy.