Llanbed oedd yr ardal gynta’ i gynnal cyfres genedlaethol o gyfarfodydd i drafod dyfodol Cymru ar ôl Brexit.
Fe ddaeth tua 25 o bobol ynghyd yn Ysgol Bro Pedr yr wythnos hon dan faner Cytûn, y corff ymbarél ar gyfer eglwysi Cristnogol Cymru.
Roedd Cytûn wedi gweithio gydag eglwysi lleol i drefnu’r digwyddiad er mwyn bwydo gwybodaeth i Weithgor Cymru ac Ewrop Cytûn a, thrwyddyn nhw, i ddylanwadu ar wleidyddion.
Y nod, meddai Gethin Rhys, Swyddog Polisi’r corff, oedd casglu barn a thrafod mewn ffordd agored ac ystyriol – roedd gwrando, meddai, yn bwysicach na phregethu.
“Doedden ni ddim eisiau i bobl geisio argyhoeddi ei gilydd ond, yn hytrach, i wrando ar ei gilydd a dangos parch at safbwyntiau ei gilydd.”
Roedd y pynciau’n cynnwys amaethyddiaeth, Cymru a’r byd a symud poblogaeth, gyda’r trafodaethau yn digwydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, mewn grwpiau bychain.