Er gwaethaf y tywydd stormus, daeth bron i 400 o drigolion lleol i Ysgol Gyfun Aberaeron nos Iau ddiwethaf, i ddatgan eu cefnogaeth i ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Cheredigion ymhen dwy flynedd.
Hwn oedd y cyfle cyntaf i glywed mwy am ymweliad cyntaf yr Eisteddfod i’r ardal am dros chwarter canrif – a’i hymweliad cyntaf erioed â thref Tregaron – ac roedd hefyd yn gyfle i bobl glywed mwy am sut i fod yn rhan o’r tîm a fydd yn tynnu popeth ynghyd er mwyn sicrhau prosiect a gŵyl lwyddiannus o 1-8 Awst 2020.
Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, “Mae’r gefnogaeth yn lleol wedi bod yn wych. ‘Dydw i erioed wedi gweld cynifer yn dod i gyfarfod cyhoeddus i gefnogi’r Eisteddfod, felly diolch o galon i bawb am fod mor barod i ddod i gefnogi, a hynny mewn tywydd mor wael.
“Mae bob amser yn gyffrous cychwyn ar brosiect yr Eisteddfod mewn ardal newydd, ac rwyf mor falch bod cynifer o’r rheini a ddaeth neithiwr wedi dangos diddordeb i fod yn rhan o’r tîm yng Ngheredigion. Mae traddodiad eisteddfodol cryf yn yr ardal, ac o weld a siarad gyda phawb yno neithiwr, mae’n amlwg bod pawb yn edrych ymlaen at ddwy flynedd o waith paratoi ar gyfer yr Eisteddfod.
“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at y daith gyda’n gilydd dros y misoedd nesaf, taith sy’n cychwyn o ddifrif ddydd Sadwrn 13 Hydref, pan fydd y gwaith ar greu’r Rhestr Testunau’n cychwyn a phan fyddwn yn ethol swyddogion y Pwyllgor Gwaith. Mae enwebiadau eisoes ar agor, ac mae’r wybodaeth i gyd ar wefan yr Eisteddfod.”
Ychwanegodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, “Roedd e’n galonogol iawn i weld cymaint o drigolion o bob rhan o’r sir yn mynychu cyfarfod cyhoeddus cyntaf llawn gwybodaeth i groesawu Eisteddfod Genedlaethol 2020 i Geredigion.
“O’r brwdfrydedd a’r gefnogaeth y gwelwyd yn y cyfarfod, mae’n glir y bydd y digwyddiad yma yn dod a thrigolion o bob oedran a chefndir at ei gilydd, i fod yn un gymuned gynhwysol sy’n falch o fod yn rhan o gynnal yr Eisteddfod yng Ngheredigion.”
Am ragor o wybodaeth ac i enwebu swyddogion ar gyfer y Pwyllgor Gwaith, ewch i www.eisteddfod.cymru. Os nad oedd modd i chi fod yn y cyfarfod diwethaf, gallwch hefyd gofrestru eich diddordeb i fod yn rhan o’r tîm ar-lein.