Canlyniadau gwych Ysgol Bro Pedr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Myfyrwyr Lefel A. Llun gan Tim Jones.
Myfyrwyr Lefel A. Llun gan Tim Jones.

Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion Ysgol Bro Pedr, Llanbed a fu’n llwyddiannus yn arholiadau’r haf eleni.

Roedd myfyrwyr y Chweched Dosbarth yn wên o glust i glust ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch yr wythnos ddiwethaf gydag 86% o’r graddau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr oedd yn astudio o leiaf dwy Lefel A yn raddau A*-C, 67% o’r graddau a ddyfarnwyd yn A*- B a 35.3% o’r graddau a ddyfarnwyd yn raddau A neu A*.

Dyma rhai o’r canlyniadau gorau: Alpha Evans, Prif Ferch, a gafodd 4A* ac 1A; Ffion Evans a gafodd 3A* ac 1B, Jack Hulme, Hanna James, Briallt Williams ac Alice Sargent a gafodd 2A* a 2A a Robert Jenkins a gafodd 2A a 3B, i enwi ond rhai o’r disgyblion.

Cafodd bron pob myfyriwr fynediad i’w dewis cyntaf o Brifysgol a dywedodd Jane Wyn, Pennaeth, “Mae hyn yn wych, yn enwedig pan fod rhywun yn ystyried natur gystadleuol y cyrsiau Prifysgolion Grŵp Russell yma.

“Rydym yn falch iawn o gyflawniad pob myfyriwr eleni eto. Mae eu llwyddiant hwy yn adlewyrchu eu gwaith caled, ymroddiad eu hathrawon a chefnogaeth eu teuluoedd.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddymuno pob llwyddiant i’r myfyrwyr ym mhennod nesaf eu bywydau, boed hynny yn y byd gwaith neu’r Brifysgol. Fel Ysgol, ein gobaith ni yma yn Ys gol Bro Pedr yw ein bod ni wedi gallu sicrhau bod ein myfyrwyr â’r holl sgiliau angenrheidiol er mwyn goresgyn a ffynnu mewn byd cystadleuol tu hwnt”.

Roedd yna lawer i’w ddathlu yr wythnos hon hefyd wrth i ddisgyblion blwyddyn 11 gasglu eu canlyniadau TGAU. Cafwyd rhai o’r canlyniadau gorau gan Lucy Hill, 13 A* a 2 A, ac Eleri James a gafodd 11 A* a 2 A. Cafwyd llwyddiant ysgubol gan y disgyblion canlynol hefyd: Lisa Evans (canlyniadau yn cynnwys 13 A*/A), Elin Davies (canlyniadau yn cynnwys 12 A*/A), Amber Davies, Heledd Jenkins a Madeleine Smith a gafodd canlyniadau oedd yn cynnwys 11 A*/A, Carys Evans (canlyniadau yn cynnwys 10 A*/A), Gethin Bevan, Emma Herbert, Owen Schroder a Theo Teasdale a gafodd canlyniadau oedd yn cynnwys 9 A*/A.

Ychwanegodd Jane Wyn, “Rydym yn ymhyfrydu yn llwyddiant pob disgybl. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol wrth i nifer ohonynt ddychwelyd i’r chweched yn Ysgol Bro Pedr a thra bo eraill yn mynd i golegau neu’r byd gwaith”.

Bydd mwy o luniau’r diwrnodau canlyniadau yn rhifyn Medi Papur Bro Clonc.