Neithiwr cynhaliwyd digwyddiad blynyddol pwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbed, sef Carol Cerdd a Chân yn Eglwys San Pedr Llanbed.
Cafwyd noson hyfryd â naws hudol y Nadolig iddi. A dyma sy’n digwydd bob blwyddyn yn y dref, a hynny nawr ers dros ddeng mlynedd ar hugain.
Croesawyd pawb i’r noson gan y Parch Jenny Kimber, wrth iddi ddarllen cyfarchion y ficer newydd sef y Parch Ddr Marc Rowlands.
Cafwyd eitemau gan Gôr Cwmann, Parti Sarn Helen, a Chôr Ysgol Dyffryn Cledlyn. Darllenwyd o’r ysgrythyr gan Eira Price ac Elaine Davies. Cafwyd datganiadau ar gân gan Sara Elan Jones, Alwena Mair Owen, Lowri Elen Jones a Kees Huysmans, ac yn rhoi datganiad hyfryd ar y delyn oedd Cerys Angharad. Gwledd o dalentau lleol a llawer ohonyn nhw’n enillwyr cenedlaethol.
Cafwyd awr a hanner dymunol iawn o garolau, cerdd a chân, a’r eglwys yn llawn fel pob blwyddyn.
Yn cynrychioli prif swyddogion Ysgol Bro Pedr gan gyhoeddi’r carolau oedd Osian, Max, Mari, Siencyn a Cari.
Diolchodd Twynog Davies ar ran y pwyllgor gweithgar i bawb â gyfrannodd ac a gefnogodd, gan dalu teyrnged arbennig i Janet Evans a fu’n trefnu. Codwyd swm sylweddol unwaith eto tuag at elusen Cymorth Cristnogol.