Cneifio Llambed 2018

gan Ffion Jenkins
Cymru yn ennill yn erbyn Ffrainc
Cymru yn ennill yn erbyn Ffrainc

Cynhaliwyd Cneifio Llambed unwaith yn rhagor eleni ar yr 21ain o Orffennaf, ar Fferm Capeli, Cribyn drwy garedigrwydd y Brodyr Williams. Y llywydd eleni oedd Mr Tommy Price, Gelliwrol, Cwmann. Dechreuwyd ar y cystadlu am 8yb gyda dros £2,500 o wobrau i’w ennill drwy gydol y dydd.

Dyma oedd y canlyniadau-

Dosbarth Iau: Noddwyd gan Teifi Forge Ltd

  1. Llion Harries
  2. Llyr Evans
  3. Meirion Evans
  4. Dafydd Evans
  5. Tudor Roderick
  6. Dion Hughes (Enillydd y gwobr lleol hefyd)

Dosbarth Canol: Noddwyd gan Gwili Jones a’i feibion

  1. Elis Ifans
  2. Gethin Lewis
  3. Llyr Jones
  4. Meredydd Pyrs
  5. Gwion Evans
  6. Guto Jones

Dosbarth Uwch: Noddwyd gan Lloyds Animal Feeds

  1. Dylan Jones
  2. John James
  3. Gwydion Davies
  4. Rhys Douglas
  5. Phil Grove
  6. Matthew Rees

Dosbarth Agored: Noddwyd gan Dunbia

  1. Mathew Evans
  2. Gavin Mutch
  3. Richard Jones
  4. Gwion Evans
  5. Alun Lloyd Jones
  6. Lloyd Rees

Cneifio Gwellau: Noddwyd gan Steel Fab Wales Ltd

  1. Rheinallt Hughes
  2. Elfed Jackson
  3. Clive Hamer
  4. Adrian Davies
  5. Richard Till
  6. Robin Jones

 

Prawf Cymru yn erbyn Seland Newydd: Noddwyd gan Gwyn Lewis Carpets Ltd, Llambed

  1. Cymru
  2. Seland Newydd

Prawf Cymru yn erbyn Ffrainc: Noddwyd gan Mayes Tyres, Llanybydder

  1. Cymru
  2. Ffrainc

Hoffai’r pwyllgor ddiolch i’n holl beiriniad, amserwyr a chyflwynwyr, ynghyd â chyflenwyr yr holl ŵyn, a’r cystadleuwyr. Hefyd diolch i Fferm Capeli am y lleoliad arbennig ac i’r holl noddwyr uchod ac eraill am eu cyfraniadau hael a’u cefnogaeth. Diolch i bawb fuodd yn cefnogi ar y diwrnod ac i bawb sydd yn paratoi cyn ac ar ôl y gystadleuaeth.

Mae mwy o wybodaeth, lluniau a fideos o’r holl rowndiau terfynol eleni ar gael ar ein tudalen facebook sef – ‘Cneifio Llambed / Lampeter Shears’.