Codi tâl ddefnyddio toiledau cyhoeddus Llanbed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Fe fydd pobol sydd am ddefnyddio’r toiledau cyhoeddus yn Stryd y Farchnad yn Llanbedr Pont Steffan yn gorfod talu ffi o 20c o hyn ymlaen, ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion benderfynu gosod giatiau talu wrth y fynedfa.

Mewn cyfarfod o’r Cabinet yr wythnos hon (13 Chwefror 2018), cafodd ei benderfynu y bydd giatiau talu yn cael eu gosod yn nhoiledau cyhoeddus yn Stryd y Farchnad, Llanbed a Stryd Ioan, Ceinewydd.

Fe benderfynodd y Cabinet fwrw ymlaen â’r cynllun ar ôl llwyddiant system debyg yn nhoiledau cyhoeddus Coedlan y Parc yn Aberystwyth, sy’n cynhyrchu incwm ar gyfer cynnal a chadw’r cyfleusterau.

Ac yn ôl y Cynghorydd Ray Quant, yr Aelod Cabinet â Chyfrifoldeb dros Wasanaethau Technegol, mae’r penderfyniad hwn yn un “angenrheidiol”, yn enwedig wrth i’r cyngor geisio arbed arian.

“Mewn cyfnod ble mae cyllidebau’r Cyngor wedi eu torri o £34m yn y pum mlynedd diwethaf,” meddai, “a gyda’r angen i arbed £5m yn y flwyddyn nesaf, mae rhaid i’r Cyngor edrych ar ffyrdd gwahanol a chynaliadwy o ariannu toiledau cyhoeddus o safon.”

Hollti barn yn Llanbed

Wrth holi trigolion Llanbed a’r ardal gyfagos ar y stryd fawr, mae’n amlwg bod y penderfyniad hwn yn un dadleuol.

Dywed Nigel Jones o Rydcymerau nad oes ganddo “lawer o feddwl” am y penderfyniad, yn enwedig o ystyried y costau parcio uchel yn Llanbed ar hyn o bryd.

“Mae parcio yn Sir Gaerfyrddin yn 50c am awr,” meddai. “Ond mae’n £1.30 yn Llanbed am yr un amser.

“Maen nhw’n mynd bach dros y top i godi am ddefnyddio’r cyfleusterau a pharcio.”

Ond mae Philip Lodwick o Lanbed ei hun wedyn yn credu bod codi ffi yn “syniad da”, ac nad yw 20c yn llawer os bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynnal a chadw’r toiledau.

“Mae’n syniad da fel mae hi heddiw, achos fe fyddwn ni’n gallu cadw’r llefydd yn lân wedyn.”