Cynhelir Gwasanaethau Cofio lleol ar ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf heddiw. Dyma fanylion llawer ohonyn nhw:
CWMANN / PENCARREG – Cofgolofn ger y Ram am 10.45yb gyda the i ddilyn yn y Ganolfan.
LLANGYBI – Neuadd Goffa am 3.30yp.
LLANBED – Cofgolofn ar Sgwâr Burgess am 10.45yb.
LLANFAIR CLYDOGAU –
2.30yp Dadorchuddio cofgolofn newydd,
3.00yp Neuadd Llanfair – lluniaeth ac arddangosfa, a’r Eglwys ar agor gydag arddangosfa hefyd,
7.00yh – Llanfair-fach – tanio coelcerth.
BETWS BLEDRWS – 10.45yb Cymundeb a gwasanaeth y cofio.
CAPEL PRIFYSGOL Y DRINDOD DEWI SANT – 10.15yb Gwasanaeth byr i gofio ac arddangosfa.
CELLAN – ger y gofgolofn am 11.00yb.
DREFACH a LLANWENOG
1.00yp y gofgolofn ger Ysgol Dyffryn Cledlyn,
2.00yp Cofio’r Canmlwyddiant gydag eitemau gan yr ysgol a’r CFfI yn yr Eglwys ac yna te i ddilyn,
7.00yh Coelcerth Gobaith ar fanc Blaenrallt Ddu, Cwmsychbant (Nid ar agor i’r cyhoedd, ond i’w gweld o bell).
LLANYBYDDER – Eglwys San Pedr am 9.30yb a ger y gofgolofn ar y sgwâr wedi hynny.
Cofiwch fynychu yn eich cymuned chi a chofio’r aberth. Yn anghof ni chânt fod.