Cwrtnewydd – bywyd newydd i’r ysgol

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Adran Gwasanaethau Ieuenctid y Sir yn dod yno

Llun o'r ysgol o'r maes chwarae
Ysgol Cwrtnewydd

Fe fydd Ysgol Gynradd Cwrtnewydd yn cael bywyd newydd wrth i Gyngor Sir Ceredigion symud un o’u hadrannau yno.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddodd yr awdurdod lleol eu bod yn tynnu’r adeilad oddi ar y farchnad ac yn symud adran Gwasnaethau Ieuenctid y sir yno.

Fe gadarnhaodd llefarydd wrth Golwg360 y bydd staff y swyddfa’n cael eu symud yno i ddechrau ond fod gobaith yn y pen draw y bydd gweithgareddau hefyd yn cael eu cynnal ar gaeau’r ysgol.

Fe ddaw’r newyddion lai na blwyddyn ers i’r ysgol gau ac o fewn ychydig fisoedd i’r penderfyniad gael ei gwneud i’w gwerthu.

 

Mae Ysgol Llanwnnen yn parhau i fod ar werth.