Cyfarfod Cyhoeddus Eisteddfod 2020

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Yr Orsedd yn Llanbed ym 1984. Llun: Ronnie Roberts.
Yr Orsedd yn Llanbed ym 1984. Llun: Ronnie Roberts.

Cynhelir cyfarfod cyhoeddus i groesawu Eisteddfod Genedlaethol 2020 i Geredigion yn Ysgol Gyfun Aberaeron, nos Iau, 20 Medi.

Bwriad y cyfarfod, a gynhelir am 19:00, yw gwahodd trigolion yr ardal i fod yn rhan o’r paratoadau a’r trefniadau ar gyfer un o wyliau mawr y byd a gynhelir yn y sir o 1-8 Awst, gyda’r cyngerdd agoriadol ar nos Wener 31 Gorffennaf 2020.

Mae croeso mawr i bawb, ac mae’r trefnwyr yn awyddus i ddenu unigolion o bob rhan o’r ardal i fod yn rhan o’r prosiect. Mae cefnogaeth leol yn eithriadol o bwysig i lwyddiant yr Eisteddfod a’r gwaith a wneir ar lawr gwlad yn rhan ganolog o’r prosiect.

Byddai’n braf gweld pobl ardal Clonc yn rhan o’r digwyddiad diwylliannol hwn, ac yn arwain y gwahanol bwyllgorau fel y digwyddodd ym 1984.  Dilynwch y ddolen isod i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn gweld pa fath o gyfraniad y gellir ei wneud.

Dywed Elen Elis y trefnydd “Mae’n anodd credu bod mwy na chwarter canrif wedi pasio ers i ni ymweld ag ardal Ceredigion, ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â’r ŵyl yn ôl i ardal sydd bob amser wedi rhoi croeso cynnes iawn i’r Eisteddfod.

“Mae’r gweithgareddau cymunedol a’r gwaith allymestyn dros y ddwy flynedd nesaf yn greiddiol i amcanion yr Eisteddfod, a’r gobaith yw y gallwn ddenu criw mawr o wirfoddolwyr brwdfrydig, yn hen ffrindiau a wynebau newydd, i fod yn rhan o’r tîm y tro hwn.”

Ychwanega Elen “Bydd y gwaith yn cychwyn bron yn syth, gan y byddwn yn dechrau rhoi’r Rhestr Testunau at ei gilydd o fewn ychydig wythnosau ac yn creu pwyllgorau apêl lleol ar draws y dalgylch i ddechrau ar y gwaith o drefnu gweithgareddau a chodi arian.”

Apelia Elen “Felly, dewch draw atom i Aberaeron i glywed mwy am y prosiect, soniwch wrth eich ffrindiau a’ch cydweithwyr, a helpwch ni i greu tîm cryf gyda phobl o bob oed a chefndir sy’n awyddus i weld y Gymraeg yn ffynnu a’r Eisteddfod yn mynd o nerth i nerth yn lleol a chenedlaethol.”

Gellir cofrestru ar-lein i fod yn rhan o dîm Eisteddfod 2020 drwy glicio yma. Bydd gwefan Eisteddfod 2020 yn cael ei datblygu dros y misoedd nesaf, neu gallwch ffonio’r swyddfa ar 0845 4090 400 am rhagor o wybodaeth.