Cyfle arbennig i ddysgu Cymraeg yn Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Ysgol Bro Pedr
Ysgol Bro Pedr

Mae Ysgol Bro Pedr yn Llanbed wedi cael cynnig arbennig i gynnal cwrs Dysgu Cymraeg i oedolion yn rhad ac am ddim am 15 wythnos, rhwng mis Mawrth a Gorffennaf 2018.

Ydych chi’n adnabod rhywun a allai elwa o fynychu gwersi Cymraeg?  Partner sy’n methu siarad Cymraeg efallai? Rhywun sydd eisiau dysgu Cymraeg i helpu’r plant gyda gwaith cartref o bosib?  Brodyr neu chwiorydd hŷn sydd angen gwella eu cyfleoedd gwaith drwy fabwysiadu sgil iaith newydd?

Yn ogystal â dysgu Cymraeg, ceir manteision ychwanegol gyda’r cynllun hwn.  Cynigir gofal plant am ddim a mynediad am ddim i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am ddim ym mis Mai i’r teulu.

Dyma grynodeb:

  • Cwrs 3 awr yr wythnos ar ôl oriau ysgol gyda gofal plant am ddim (dwy sesiwn yr wythnos o 4:00 tan 5:30yp)
  • Ar gael i rieni, gwarcheidwaid neu deulu estynedig
  • Dysgu Cymraeg i chwarae a darllen gyda’r plant
  • Dysgu drwy weithgareddau hwyl heb bwysau
  • Taith i Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd ym mis Mai gyda mynediad am ddim i’r teulu
  • Gwella eich sgiliau Cymraeg ar gyfer gwaith

Wel dyma gyfle unigryw iddynt.  Cofiwch sôn wrthynt ynghyd â’u perswadio i gofrestru.  Does ganddynt ddim byd i’w golli.

Os y gwyddoch am rywrai â diddordeb, rhowch wybod i’r ysgol erbyn Chwefror 10fed drwy gysylltu â Mrs Llinos Jones.