Cyfrinachau Tin Tin yr Aelod Seneddol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Nid yn aml iawn y mae Aelod Seneddol yn datgelu cyfrinachau personol.  Papurau newyddion sy fel arfer yn mynd ar ôl y rheiny.

Ond yn rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc mae ‘Tin Tin’ neu Ben Lake o Lanbed sy’n Aelod Seneddol Ceredigion yn ateb cwestiynau personol ar gyfer colofn Cadwyn Cyfrinachau.

Gallwch ddarganfod sawl ffaith ddiddorol. Sawl milltir y dydd mae e’n cerdded bob dydd yn San Steffan er enghraifft.  A phwy wyddai fod ganddo gymhwyster Deifio Scwba?

Mae aelodau seneddol yn adnabyddus am liwio’r gwirionedd, ond beth oedd y celwydd diweddaraf i Ben Lake ei ddweud?  Ydy e’n dyfaru unrhywbeth?  Pryd aeth e’n grac ddiwethaf?  Beth oedd y peth ofnadwy wnaeth e i gael row gan rywun?

Mynnwch gopi o Clonc mis Mai a chewch ddysgu mwy am Ben, ein Aelod Seneddol gweithgar ifanc.