Cymdeithas Hanes Llambed

gan Yvonne Davies
John Phillips yn annerch aelodau'r gymdeithas.
John Phillips yn annerch aelodau’r gymdeithas.

Y Bnr John Phillips, Cyn-gyfarwyddwr Addysg Dyfed, oedd y siaradwr gwadd yng nghyfarfod mis Ionawr. Dangoswyd dwy ffilm o waith ei wraig Bethan, hanesydd amlwg drwy Gymru gyfan.

Rhoddodd gefndir y ffilm gyntaf a wnaed tua 20 mlynedd yn ôl, am Joseph Jenkins, Blaenplwyf, ac wedyn Trecefel, Tregaron (1818-98). Dechreuodd gadw dyddiaduron pan oedd yn 21 mlwydd oed, a’u hysgrifennu yn Saesneg, yn bennaf er mwyn gwella safon ei fedrusrwydd yn yr iaith honno.

Mae’r 58 o ddyddiaduron sydd wedi goroesi yn rhoi hanes bywyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y ffilm a wnaed gan Bethan a Paul Turner yn dechrau gan ganolbwyntio ar fywyd Joseph yn Nhregaron, lle chwaraeodd ran sylfaenol mewn agor yr ysgol gynradd. Er ei fod yn ŵr amlwg yn y gymuned honno, cododd ei bac gan anelu am Awstralia, a cheisio gwaith yn Victoria, gan symud o un fferm i’r llall er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd, a chael ei adnabod fel ‘Y Swagman’.

Wedi 25 mlynedd yn Awstralia, dychwelodd adre i Drecefel at ei wraig Beti, ac er nad oes yna gofnod iddo yfed diodydd meddwol tra’r oedd yn Awstralia, buan y trodd yn ôl at y demtasiwn honno, a chroniclir ei hanes wedi iddo ddychwelyd yn nyddiaduron ei ferch Ann. Bu farw yn 1898, a’i gladdu gyda dau o’i feibion ym mynwent Capel-y-Groes.

Aelodau'r gymdeithas yn yr Hen Neuadd.
Aelodau’r gymdeithas yn yr Hen Neuadd.

Hanes George Pocock oedd yr ail ffilm; y goroeswr diwethaf yn Llambed i ymladd yn y Rhyfel Mawr. Tynnwyd y ffilm gan Dylan Lewis yn 1989 pan oedd yn y Chweched Dosbarth yn Ysgol Gyfun Llambed, a da oedd cael cwmni Dylan ar y noson. Gwelwyd Bethan Phillips yn holi George am ei gyfnod yn y fyddin.

Roedd wedi ymuno yn 15 oed, ond wedi celu ei wir ddyddiad geni. Soniodd sut y bu iddo ef a 55 o fechgyn eraill ymdeithio i’r orsaf drên yn Llambed, i gychwyn ar chwe wythnos o hyfforddiant cyn eu cael eu hanfon i’r ffosydd yn Ffrainc. Soniodd am y brwydrau y bu’n rhan ohonynt, a’r erchyllterau a welodd yno; y defnydd o nwy a chyflwr eu bywyd yn y ffosydd; agwedd y Swyddogion a’r ddisgyblaeth ofynnol tra bu yno.

Dangosodd y gynulleidfa luosog ei gwerthfawrogiad i John Phillips a Dylan Lewis am ddangos y ffilmiau a rhoi’r cefndir perthnasol iddynt.

Bydd y cyfarfod nesaf nos Fawrth, 20fed Chwefror am 7.30 yh – yn Ystafell 1, Neuadd Celfyddydau’r Brifysgol (Arts Hall – nodwch y newid yn y lleoliad). Bydd Eric Williams a Jen Cairns yn siarad am yr ymchwil diweddar sydd wedi ei wneud ar Blwyf Pencarreg.