Yn rhifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc cyhoeddir lluniau’r pedwar Clwb lleol a fu’n cystadlu yng nghystadleuaeth Pantomeim y Clybiau Ffermwyr yn y ddwy sir yr wythnos ddiwethaf.
Yn ogystal â hynny, cyhoeddir enillwyr gwobrau arbennig. Yng Ngheredigion, Clwb Pontsian enillodd y Panto Gorau ac aeth y wobr am yr Actor Gorau dan 26 oed i Endaf Griffiths o bentref Cwmsychpant.
Roedd Einir Ryder, Cwmsychpant a Dylan Iorwerth, Llanwnnen yn rhan o dîm cynhyrchu Clwb Pontsian a gafodd y wobr am y Cynhyrchwyr Gorau. Llongyfarchiadau hefyd i Dylan Iorwerth am gipio gwobr y Sgript Orau. Tipyn o gamp yn wir!
Aeth y wobr am y Set Orau a’r wobr Dechnolegol i Glwb Llanwenog a fu’n perfformio “Cwtch, Slwtch a Thwtch o Rwtch” dan gyfarwyddyd Pete Ebbsworth.
Y beirniad yn Theatr Felinfach yn ystod yr wythnos oedd yr actor adnabyddus Dafydd Hywel o Gapel Hendre. Daeth Clwb Talybont yn ail a Chlwb Caerwedros yn drydydd.
Yn drydydd am yr Actor Gorau dan 16 oed oedd Daniel Evans o Glwb Bro’r Dderi, gyda Jac Hockenhull a Daniel Owen o Glwb Llanddewi Brefi yn gydradd gyntaf. Cafodd aelodau Bro’r Dderi dipyn o hwyl yn perfformio “Beti Bledrws a Thŵr y Dderi” a’u cynhyrchydd oedd Elliw Mair.
Tra yn Sir Gaerfyrddin bu Clwb Cwmann a Chlwb Llanllwni yn perfformio yn Neuadd y Gwendraeth, Drefach. Y beirniad yno oedd Delme Harries o Gasmael.
Yn agor y cystadlu ar y nos Lun oedd aelodau Clwb Cwmann gyda’u perfformiad o “A’r fflam i Gwmann”. Fe’u hyfforddwyd gan Meinir, Elen, Aled, Tomos a swyddogion y clwb.
Ar nos Iau, cafwyd gwledd o adloniant yng nghwmni aelodau Clwb Llanllwni a fu’n perfformio “Y Dewin y Dwl a’r Criw Siwl-di- mwl” dan gyfarwyddyd Gary Davies.
Y Pantomeim Gorau yng nghystadleuaeth Sir Gaerfyrddin oedd Clwb Penybont ac enillwyd yr Actor Gorau dan 18 oed gan Dion Davies, Clwb Dyffryn Cothi. Cafwyd wythnos lawn o adloniant o’r safon uchaf yn y ddwy sir. Pob lwc i bawb a fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cymru cyn hir yn y Rhyl.
Yn ogystal â hynny, mae pob clwb fel arfer yn cynnal cyngherddau yn lleol er mwyn perfformio’r panto unwaith eto i’r rhai a fethodd fynychu’r gystadleuaeth ac i godi arian tuag at y clybiau ac achosion da. Edrychwch yn Nyddiadur Clonc am fanylion y digwyddiadau hyn.