Cyngerdd Dyffryn Cledlyn

gan SionedDavies

Ar nos Sadwrn 14eg o Ebrill cynhaliwyd cyngerdd yn Ysgol Dyffryn Cledlyn i godi arian tuag at CFfI Ceredigion ac Ysgol Dyffryn Cledlyn.

Cynhaliwyd y noson gan y Cyng Euros Davies gan ei fod yn llywydd ar fudiad CFfI Ceredigion eleni ac yn gadeirydd Llywodraethwyr ysgol Dyffryn Cledlyn. Roedd y noson yng ngofal dwylo medrus Pete Ebbsworth a Gethin Hatcher. Artistiaid y noson oedd disgyblion ysgol Dyffryn Cledlyn, CFfI Llanwenog, Richard a Thomas Jones CFfI Pontsian, Carwyn Hawkins CFfI Felinfach, Catrin a Sara Reynolds ac Elen Davies CFfI Troedyraur, Sara Davies a Dion Davies.

Roedd hi’n noson fythgofiadwy yng nghwmni talent cefn gwlad yr ardal. Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi’r noson, i’r holl artistiaid am eu perfformaidau graenus ac i Gethin a Pete am arwain mor hwylus. Codwyd £1140.00 i’w rhannu rhwng yr ysgol a’r CFfI.