Datgelu’r frwydr dros addysg Gymraeg ac yn erbyn Education First gan addysgwr ‘Stalinaidd’ Dyfed

gan Gwenllian Jones

Ar 10 Mai 2018 cyhoeddir hunangofiant gan un o ffigyrau amlycaf y byd addysg yng ngorllewin Cymru sy’n tystio i’r newidiadau mawr a fu yn y Fro Gymraeg yn ystod chwarter olaf yr ugeinfed ganrif dan ddylanwad y mewnfudo.


Yn y gyfrol, Agor Cloriau: Atgofion Addysgwr, mae John Phillips, brodor o ardal Llanbed, yn cyfeirio at y newidiadau yng nghymeriad ieithyddol llawer o’r ysgolion bach gwledig mewn cyfnod o ugain mlynedd. Fel dirprwy ac yna cyfarwyddwr addysg sir Aberteifi bu’n rhaid wynebu gwrthwynebiad chwyrn o blaid y Language Freedom Movement yn Aberystwyth wrth geisio cryfhau polisi iaith y sir. Dangoswyd llawer o elyniaeth hefyd yn erbyn sefydlu ysgol ddwyieithog Penweddig yn arbennig o gyfeiriad y Blaid Lafur leol. Ond llwyddwyd i wrthsefyll y casineb a ddaeth i’r amlwg. Yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Addysg Dyfed sefydlwyd pump ysgol ddwyieithog arall sef Ysgol y Strade, Ysgol Bro Myrddin, Ysgol Maesyryrfa, Ysgol Dyffryn Teifi ac Ysgol y Preselau. Bu tipyn o wrthwynebiad ynglŷn a’r ddwy olaf a chafwyd llawer o anghydfod yn enwedig yng ngogledd Sir Benfro.


Wrth geisio cryfhau polisi iaith yr ysgolion cynradd cafodd John Phillips ei feirniadu’n llym gan Education First a chan aelod seneddol llafur Caerfyrddin. Cafodd ei gyhuddo o fod yn ‘Stalinistaidd’ ac o gyflwyno system o ‘apartheid’. Aeth y dadlau i sylw’r wasg yn Lloegr a bu’n rhaid iddo ef ymddangos droeon ar deledu i amddiffyn y polisi. Bu hyd yn oed Bernard Levin colofnydd pigog y Times yn lladd arno ef a’r polisi yn y papur hwnnw. Er i’r mater fynd i’r Uchel Lys ni ildiodd Dyfed ac enillodd y Pwyllgor Addysg yr achos. Dyrchafwyd John Phillips i swydd Prif-weithredwr Dyfed yn 1990 y sir fwyaf yn ddaearyddol yng Nghymru.


Yn y gyfrol hefyd ceir disgrifiadau difyr o fywyd mab i golier ym mhentref Gwauncaegurwen yn ystod y rhyfel ac o ddylanwad Eic Davies arno ef a’i gyd-dysgyblion a oedd yn cynnwys dau archdderwydd ac un actores ddisglair iawn. Ceir pigion hefyd o fywyd yng ngholeg Aberystwyth, yn y fyddin ac fel athro ifanc yn East End Llundain (ardal y Krays).


Wedi ymddeol yn 1996 bu John Phillps yn weithgar iawn mewn amryw o feysydd. Bu’n Gyfarwyddwr Cymru a’r Byd ac fe alwyd arno gan y Cynulliad i greu un gymdeithas ar gyfer y cynghorau bro. Bu’n cadeirio amryw o bwyllgorau apêl o fewn y Gwasanaeth Iechyd gan gynnwys dau achos o lofruddiaeth. Heddiw mae’n ceisio dangos pa mor echrydus yw’r gofal am gleifion ‘dementia’ yn dilyn tostrwydd ei wraig Bethan, ac fe ymddangosodd ar raglen Beti George ar deledu yn ddiweddar.

 

Bydd Agor Cloriau, hunangofiant John Phillips yn cael ei lansio’n swyddogol yng Nghapel Shiloh, Llanbedr Pont Steffan ar nos Iau 10 Mai am 7 o’r gloch yng nghwmni Lyn Ebenezer a Hag Harris. Bydd Goronwy Evans yn cadeirio’r noswaith, gyda cherddoriaeth gan Kees Huysmans. Croeso cynnes i bawb!

 

Bydd John Phillips hefyd yn trafod ei gyfrol am 1.30 yp yn Yr Atom ar ddydd Sadwrn 12 Mai, yn rhan o’r Fedwen Lyfrau yng Nghaerfyrddin. Croeso cynnes i bawb!