Dathliadau Gŵyl Dewi Llanbed a’r cylch

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

O ddydd Iau Mawrth y 1af hyd  Nos Sadwrn y 3ydd bydd dathliadau Gŵyl Dewi yn y dref. Ar y dydd Iau sef Dydd Gŵyl Dewi Sant bydd holl gaffis y dref yn cynnig bwydydd Cymreig felly ewch i ddathlu a gwledda.

Ar brynhawn Gwener yr ail o Fawrth 2018 trefnir gorymdaith gan Gyngor y dref a Cered drwy dref Llanbed a hoffen eich gwahodd i ymuno â ni.  Bydd y parêd/gorymdaith yn cychwyn o Ysgol Bro Pedr am 12.45  gyda ysgolion y dalgylch, cymdeithasau, clybiau ac eglwysi’r cylch. Gofynnir i bob ysgol/cymdeithas arddangos baner eu mudiad a gwisgo gwisg Gymreig neu goch!

Bydd Ben Lake (AS) ac Elin Jones (AC), Cyngor y dref a Chôr Cwmann yn gorymdeithio hefyd.  Cynhelir digwyddiad i ddilyn ar Barc yr Orsedd  gyda siaradwyr, Côr Cwmann a grŵp o Ysgol Bro Pedr.  Awn i Neuadd Victoria os na fydd y tywydd yn caniatau.  Bydd sesiwn yn dilyn i’r plant yn y Neuadd gyda Sally Saunders a Sioned Rees.

Mae croeso i bawb ymuno yn y parêd neu ym Mharc yr Orsedd tua 1.15 o’r gloch.

Ar nos Sadwrn y 3ydd o 8 ymlaen trefnir Gig yn Neuadd Victoria gyda Fleur de Lys, Mei Emrys a’r Band, Bwca a DJ’s Ysgol Bro Pedr.  Tocynnau £8 o flaen llaw gan Cered 01545 572350 neu drwy’r ysgolion neu £10 wrth  y drws.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ar e-bost.

Diolch i’n noddwyr – Cyngor Tref, Cered, LAS, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a W.D. Lewis a’i fab, Clwb Rotari, Pedr a Chlwb Cinio Llambed.

Bydd gwobr i’r siop/busnes sydd wedi addurno orau ar gyfer wythnos y dathlu rhoddedig gan y Cyngor tref.