Dewis Swyddogion Carnifal Llanybydder

gan Siona Evans

Ar nos Wener 20fed o Ebrill cynhaliwyd noson ddawns i ddewis swyddogion Carnifal Llanybydder yng Nghlwb Rygbi Llanybydder.

Roedd yn noson lwyddiannus dros ben a chafodd y plant amser da. Llongyfarchiadau i’r canlynol am gael eu dewis fod yn swyddogion: Brenhines y carnifal – Cerys Lloyd; Morwynion – Amy Rees ac Gweno Jones; Brenhines y tylwyth teg – Soffia Draycott Evendon; Tywysog –  Prys Jones.

Bydd y carnifal ar 30ain o Fehefin, gorymdaith i ddechrau am 12.30yp o faes parcio Y Llew Du ac i ddechrau yng Nghae Rygbi Llanybydder am 1.00yp. Thema’r gwisgoedd yw ‘Disney’.

Noson y carnifal yn y Llew Du – bydd disgo i’r plant am 6.00yh gyda disgo ac adloniant gan y gantores Kiri Leigh i’r oedolion o 8.00yh tan yr hwyr.