Dros 600 stori ar Clonc360

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ar drothwy blwyddyn newydd mae Papur Bro Clonc a Chwmni Golwg yn gallu dathlu bod dros 600 stori wedi eu cyhoeddi ar y wefan hon.

Sefydlwyd y wefan ym mis Ebrill 2015 fel arbrawf.  Gydag arbenigedd technolegol Cwmni Golwg ac ysbryd cymunedol y bobl leol, bu’r fenter yn llwyddiant ysgubol.

Mae’r straeon wedi amrywio o newyddion caled fel llofruddiaeth, llifogydd a damwain angheuol – a’r cyfan yn yr iaith Gymraeg, i adroddiadau am ddigwyddiadau amrywiol fel eisteddfodau, carnifalau, rasys, sioeau a chyngherddau.  Popeth sy’n effeithio ar y gymuned ac sy’n tynnu’r gymuned honno at ei gilydd.

Daw’r straeon o ardal Papur Bro Clonc sef Llanbed, Llanybydder a phentrefi cyfagos.  Ond yr hyn sy’n fwy o destun dathlu yw bod 121 o bobl wedi cyfrannu ati.  Hynny yw mae 121 o ohebwyr lleol wedi cofrestru ac ychwanegu un stori neu fwy yr un, rhai ohonyn nhw na fyddai fel arfer yn cyfrannu i’r papur bro

Dyna beth sy’n gwneud y wefan yn unigryw yw bod unrhywun yn gallu ychwanegu stori.  Gwasanaeth newyddion lleol i bobl leol gan y bobl leol.  Yn ychwanegol i hynny, mae’r cyfan yn gyfoes.  Mae ambell i stori wedi ymddangos ar wefan Clonc360 cyn iddynt fod ar gyfryngau newyddion eraill.

Un llwyddiant poblogaidd arall yw ffîd trydar Clonc360 a ddaw o ddigwyddiadau lleol, gyda gwirfoddolwyr yn cyhoeddi canlyniadau eisteddfodau, chwaraeon a chystadlaethau ffermwyr ifanc fel maen nhw’n digwydd.

Amcanion Papur Bro Clonc yw:

– Hybu Cymreictod a sicrhau twf yn y nifer o bobl sy’n darllen Cymraeg.

– Sicrhau bod y papur ‘yn gyfrwng i’n cael i adnabod ein bro a’n pobl yn well.’

– A bod y papur yn sbardun i hybu gweithgareddau cymdeithasol o bob math.

Trwy wefan Clonc360, tudalen facebook, fideos youtube a negeseuon trydar, mae gwirfoddolwyr Clonc yn llwyddo i gyflawni’r amcanion uchod hyd yn oed yn fwy llwyddiannus.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd cynllun Bro360 er mwyn creu cynlluniau peilot tebyg yn ardal Arfon ac Aberystwyth. Dyma fenter i’w chroesawu.

Dywedodd Elin Jones AC yn lansiad Bro360 yn y Cynulliad “Dw i’n dod o ardal Llanbed yn wreiddiol ac ma newyddion ardal Llanbed yn bwysig i fi, felly dw i wedi profi gwerth Clonc360 dros y blynyddoedd diwetha ma. 

Ychwanegodd Elin “Mae’n fendigedig o gaffaeliad i ni yn ardal Llanbed a bobl sy wedi gadael Llanbed a sy dal eisiau ymwneud â’u bro.  A nawr ryn ni’n mynd i gael y cyfle mewn nifer o wahanol gymunedau yng Nghymru i sicrhau fod newyddion ein broydd ni yn cael eu hadrodd a’u darllen yn Gymraeg gan hyd yn oed mwy o bobl gobeithio.”

Parheuir i gefnogi a datblygu darpariaeth Clonc360, ac arbrofwyd eisoes gan gynnwys hysbysebion lleol ar y wefan a chynigion arbennig yn siopau Llanbed.

Beth am fynd ati gydag adduned blwyddyn newydd a chyfrannu eich stori eich hunan?  Mae’n hawdd, dim ond cofrestru ar y wefan yn gyntaf sydd angen, ysgrifennu’r stori a’i hychwangeu ynghyd â llun.  Gallwch wneud y cyfan ar eich ffôn clyfar.  Peidiwch poeni gormod am safon iaith.  Caiff y stori ei chyhoeddi wedi i’r golygydd fwrw golwg drosti yn gynta.