Eisteddfod Bro Pedr – dau ddiwrnod llwyddiannus iawn

gan Edwina Rees
Capteniaid ac Is-gapteniaid y tai - Coch - Teifi ac yn ennill y marciau uchaf. Melyn - Creuddyn yn ail a Glas - Dulas yn drydydd. Llun: Tim Jones.
Capteniaid ac Is-gapteniaid y tai. Coch – Teifi ac yn ennill y marciau uchaf. Melyn – Creuddyn yn ail, a Glas – Dulas yn drydydd. Llun: Tim Jones.

Ar brynhawn Mawrth y 13eg o Chwefror a dydd Mercher, y 14eg cynhaliwyd Eisteddfod Ysgol Bro Pedr.

Dechreuodd yr Eisteddfod gyda’r gystadleuaeth gyntaf sef y grŵp pop agored. Daeth Dulas yn fuddugol ac yn gydradd ail oedd Creuddyn a Teifi.

Y gystadleuaeth lwyfan nesaf oedd Unawd Offerynnol Iau ac yn fuddugol oedd Sioned Davies o dŷ Teifi. Yn dilyn hyn oedd y Stori a Sain. Yn fuddugol yn y gystadleuaeth hon oedd Twm ac Alpha o dŷ Teifi. Unawd Offerynnol Hŷn oedd nesaf ac Alpha enillodd wrth ganu’r piano.

Enillydd y Gadair am y trydydd tro yn olynol oedd Twm Ebbsworth, Teifi. Ef hefyd oedd yn ail a chydradd trydydd. Llun: Tim Jones.
Enillydd y Gadair am y trydydd tro yn olynol oedd Twm Ebbsworth, Teifi. Ef hefyd oedd yn ail a chydradd trydydd. Llun: Tim Jones.

Y dawnsio disgo agored oedd y gystadleuaeth olaf ar y prynhawn Mawrth ac yn fuddugol oedd Creuddyn, Dulas yn ail a Teifi yn drydydd.

Dechreuodd y cystadlu eto ar fore Mercher gyda’r Unawd Merched. Cawsom ein swyno gan Sioned Davies â enillodd o dŷ Teifi.

Eleni, roedd cystadlaethau newydd – sef Unawd Bl.5 a 6, Llefaru B.5 a 6 a Llefaru ail-iaith Bl. 5 a 6. Cerys Angharad enillodd y canu, Rhun o Dulas y llefaru a Mabli Cutler y llefaru ail iaith. Lois o Creuddyn enillodd y llefaru Iau tra enillodd Gruffydd Dafydd o Creuddyn yr Unawd Bechgyn Iau. Braf oedd gweld aelodau o Flwyddyn 7 yn cystadlu ac yn cyrraedd y llwyfan yn eu heisteddfod gyntaf yn Bro Pedr.

Roedd nifer o dŷ Teifi wedi bod yn llwyddiannus iawn yn yr Eisteddfod – Elan Jones yn y llefaru Hŷn a Siencyn Jones yn yr unawd bechgyn Hŷn a’r areithio heb anghofio Lisa Evans yn yr Unawd Merched Hŷn.

Meim buddugol Dulas.
Meim buddugol Dulas.

Mae’r seremonïau yn Eisteddfod Bro Pedr bob amser yn wych ac roedd eleni yn ddim gwahanol. Gwnaeth Lauren Hill Teifi ennill y Goron a thipyn o gamp yn wir wrth ystyried mai ond ym Mlwyddyn 10 y mae hi. Twm Ebbsworth oedd bardd y gadair – a hynny am y trydydd tro yn olynol. Fe hefyd enillodd yr ail wobr a rhannu’r drydedd wobr gyda Briallt Williams. Roedd tŷ Teifi wrth eu boddau.

Brynhawn Mercher gwelwyd mwy o sbort ar y llwyfan gyda’r meim a’r sgetsys. Dulas enillodd y meim a Teifi oedd yn fuddugol yn y sgets – lle roedd y staff ar raglen goginio.

Parti Merched buddugol Creuddyn.
Parti Merched buddugol Creuddyn.

Ar ddiwedd y prynhawn daeth y parti merched a’r parti bechgyn i’r llwyfan. Creuddyn oedd yn fuddugol yn y parti merched a Dulas y parti bechgyn.

I orffen y cyfan gyda’r gân – ‘Mae’r dyfodol yn ein dwylo ni’  oedd y côr. Teifi oedd yn fuddugol gyda’i datganiad hyfryd o dan arweiniad Cari Jones, eu capten.

Bu’r eisteddfod eto yn ddau ddiwrnod llwyddiannus iawn a diolch i’n beirniaid Sion Eilir Pryce (Cerdd) a Non Walters (Llefaru a’r Gadair) heb anghofio Sarah Stewart a fu’n beirniadu’r Goron. Y pwyntiau terfynol oedd 757 i Teifi, 463 i Creuddyn a 413 i Dulas. Llongyfarchiadau i bawb.

Amy Lloyd 8N