Ewyllys da teulu lleol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Bedwyr ymhlith criw Bishop of Bedlam
Bedwyr ymhlith criw Bishop of Bedlam

Mae teulu lleol wedi bod yn weithgar iawn yn codi arian sylweddol tuag at elusennau yn y blynyddoedd diwethaf, ac yn parhau i wneud.

Mae Bedwyr Davies o Gwmann yn rhedeg busnes hyrwyddo’r gêm dartiau sef Bishop of Bedlam ac wedi codi dros £12,000 tuag at nifer fawr o elusennau dros bum mlynedd.

Yr elusennau a elwodd o ymdrechion Bishop of Bedlam oedd Prostate Cancer UK, Cancer Research UK, Diabetes UK, Ambiwlans Awyr Cymru, Multiple Sclorosis UK a maent newydd dechrau codi tuag at Cancr y Fron ar gyfer 2018.  Gallwch gyfrannu ar dudalen JustGiving.

Nicola
Nicola

Tra mae ei wraig Nicola wedi bod yn rhedeg 30 ras ac wedi llwyddo i godi dros £3,500 tuag at Cancer Research UK.  Gallwch gyfrannu ar ei thudalen JustGiving.  Mae Nicola wedi rhedeg Marathon ychwanegol yn ddiweddar ac yn bwriadu rhedeg Ultra Marathon yn y Gwanwyn.  Ras o 40 milltir.  Tipyn o her!

Cafodd chwaer Bedwyr, sef Rhian sy’n byw ym Mhontypridd driniaeth am gancr dros ddeng mlynedd yn ôl, ac er mwyn dathlu degawd yn rhydd o gancr, mae wedi penderfynu ymgymryd â her Beicio West Coast Velindre.  Bydd hi’n beicio 600km o San Francisco i Los Angeles ym mis Medi eleni.

Rhian
Rhian

Mae Rhian wedi codi dros £800 yn barod ac yn gofyn yn garedig am gefnogaeth drwy wefan MyDonate.

Dywedodd mam Bedwyr a Rhian, Yvonne Davies o Drefach “Rydym yn edmygu’r tri am ymdrechu i godi arian i’r elusennau yma sy’n ymwneud â chancr.  Mae’n effeithio ar gymaint ohonom – naill a’i yn bersonol, yn deuluol neu drwy ffrindiau.

“Defnyddir yr arian i gefnogi’r cleifion neu eu rhoi i waith ymchwil, – a fydd yn rhoi gobaith o wellhad llwyr o’r salwch yma, pa le bynnag y bydd yn dod i’r amlwg.”

Teulu rhyfeddol felly, yn gweithio’n ddiflino er mwyn cynorthwyo achosion da teilwng iawn yn ein cymunedau, a chefnogaeth aruthrol iddynt gan ffrindiau, teuluoedd a chydnabod.

Pob dymuniad da iddynt gyda’r heriau eleni ac edrychwn ymlaen i ddarllen am y symiau terfynol a godir.