Fersiwn fodern o Stori’r Geni

gan Alun Wyn

Bu hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Theresa May, i drethu’r holl wlad gyda mwy o VAT. Cafwyd y gorchymyn hwn ychydig cyn y Nadolig i ddod i weithrediad yn y flwyddyn newydd, ac felly rhuthrodd pawb allan i wneud eu siopa Nadolig yn gynnar er mwyn osgoi y dreth.

Aeth Jo a Meri o Lambed i Abertawe er mwyn mynd i’r siopau mawr i neud eu siopa Nadolig. Roedd Meri yn edrych ymlaen i’r wacen achos hon fydde’r dwetha shwr o fod cyn geni eu baban achos roedd y dyddiad yn agos.

Ond wrth iddynt wthio eu ffordd drwy y crowd yn Debenhams dechreuodd Meri deimlo poenau, ac yn y diwedd roedd rhaid iddi ddweud wrth Jo, ac roedd yntau yn nerfus ac yn becso. Doedd Meri ddim ishe neud ffys ac felly fe dreion nhw wthio eu ffordd tuag at y drws er mwyn dala’r bys gatre, achos o nhw methu ffordo car.

Ond roedd y poenau yn cryfhau erbyn hyn ac yn dod yn rheolaidd, a ffeintodd Meri ym mreichie Jo. Gymrodd y crowd ddim lot o sylw achos odd hi bron a bod yn amser cau ac odd pawb yn whilo am y presant dwetha hwnnw. Rhegodd rhywyn, Iesu Grist, wrth iddyn nhw bron a chwympo dros goese Meri a hi yn gorwedd ar y llawr.

Odd manager y siop yn eitha neis pan gyrhaeddodd e a fe gath e rhai o’r staff i helpu cario Meri i gefen y siop. Wedi’r cyfan, oedd e ddim ishe gormod o ffys i dorri ar draws y cwsmeriaid oedd yn fishi yn hala arian mawr. Treiodd y manager ffonio yr ambiwlans ar ei fobeil ffôn, unrhyw beth i gael Meri a Jo mas o’r siop. Ond odd hi rhy hwyr. Achos pan dath e nôl i’r offis fe glywodd e fabi bach yn llefen a Jo hefyd yn llefen y glaw.

Cyrhaeddodd y doctor, a dywedodd hwnnw fod yn rhaid i Meri a’r babi aros yn yr offis am sbel nes bo hi yn cryfau ychydig. Doedd y manager ddim yn hapus iawn pan tynnwyd un o’r dreire mas o’i ffeling cabinet a tipiwyd y papure mas, a tynnwyd y cyrtens lawr a’u rhoi nhw am y babi yn y drar.

Roedd Jo wedi bod ar ei ffôn hefyd a chyn bo hir roedd eu perthnase nhw wedi dechre cyrraedd o Lanbed a fe ffindon nhw Debenhams yn rwydd achos y decoreshons a’r seren enfawr odd tu fas i’r siop, a pawb yn rhyfeddu at y babi bach yn y drar.

Cyrhaeddodd peiled o riporters hefyd o’r Evening Post a’r Western Mail a hyd yn oed Clonc i dynnu llun y babi ac erbyn hyn roedd y manager lot mwy hapus. Ond drw’r cyfan roedd Meri yn dawel ac yn myfyrio a meddwl am shwt un fydde ei babi bach newydd.

 

Cyfieithiad ac addasiad o’r hyn a ysgrifennodd dad – D. Elwyn Davies flynyddoedd yn ôl.