Ffarwél i’r casgliad cwiltiau

Dylan Iorwerth
gan Dylan Iorwerth
www.welshquilts.com
www.welshquilts.com

Ar drothwy ei phen-blwydd yn 80 oed, mae Jen Jones wedi penderfynu cau’r Ganolfan Gwiltiau Cymreig yn Llanbed. Dyma stori a ymddangosodd gynta’ yn y cylchgrawn Golwg …

“Dw i’n credu ein bod ni wedi gwneud gwahaniaeth mawr i Lanbed a dw i ddim yn credu y bydd pobol yn sylweddoli faint o wahaniaeth yr ydyn ni wedi ei wneud nes y bydd y ganolfan wedi mynd.”

Geiriau Jen Jones a sefydlodd y Ganolfan Gwiltiau Cymreig yn Llanbed yn 2009, gyda’r bwriad o rannu hanes cwiltiau Cymreig i gynulleidfa ehangach. Bellach, mae hi wedi penderfynu ei chau.

Bob blwyddyn fe fydd hi’n teithio i wledydd dramor i siarad am y cwiltiau Cymreig ac mae gweithdai yn cael eu cynnal yn y ganolfan yn Llanbed.

www.welshquilts.com
www.welshquilts.com

“Rydyn ni wedi bod dramor bob blwyddyn gydag arddangosfa ac fe aeth un i America ac ar draws y Deyrnas Unedig. Roedd y cwiltiau wedi cael ymateb anhygoel. Roedd pobl yn sylweddoli bod y gwaith eithriadol yma wedi dod o Gymru.”

Dyw’r rhan fwya’ o’r ymwelwyr sy’n dod i weld y cwiltiau yn Llanbed ddim yn dod o Gymru, meddai.

“Mae pobol wedi dod o Loegr, Iwerddon yr Alban a rhannau o Ewrop ac America. Mae yna garfan fechan o gefnogwyr yng Nghymru ond mae’r cwiltiau yn cael eu gwerthfawrogi llawer mwy gan bobol y tu hwnt i Gymru.”

Pam cau?

A hithau ar drothwy ei phen-blwydd yn 80 oed y flwyddyn nesaf, mae Jen Jones wedi penderfynu cau’r ganolfan – sy’n cynnwys arddangosfa, siop a chaffi yn adeilad hen Neuadd y Dref – er mwyn canolbwyntio ar hyrwyddo cwiltiau Cymreig ledled y byd. Bydd hynny’n digwydd ym mis Tachwedd.

Canolfan Gwiltiau Llanbed (Golwg360)
Canolfan Gwiltiau Llanbed (Golwg360)

“Dwi’n credu ein bod ni wedi cyflawni llawer iawn yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, diolch i fy ngŵr Roger Clive-Powell [y pensaer a fu farw dair blynedd yn ôl]. Roedd e wedi achub yr adeilad bendigedig yma er mwyn ei droi’n ganolfan i’r cwiltiau.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi llwyddo i ddangos i bobol pa mor arbennig yw’r adeilad a pha mor bwysig ydy e. Mae wedi bod yn job enfawr i adfer yr adeilad a bellach dw i ddim eisiau’r cyfrifoldeb o wneud hynny.

“Fe fyddai’r prosiect yma wedi dod i ben oni bai am y gwirfoddolwyr hollol anhygoel sydd gyda ni yma. Mae gyda nhw arbenigedd yn y maes ac yn cynnig profiad arbennig iawn i’r ymwelwyr. Mae [y dylunydd a churadur] Gwenllian Ashley wedi arddangos y cwiltiau mewn ffordd drawiadol iawn.

Ar hyn o bryd, mae Jen Jones yn dweud nad yw’n siŵr beth i’w wneud gyda’r adeilad ond fe fydd y casgliad unigryw o fwy na 400 o gwiltiau Cymreig yn aros gyda’i gilydd.

“Fe fydd pobol yn gallu cael mynediad atyn nhw drwy seminarau a phethau felly. Dw i jest yn gobeithio y bydd cymaint o bobol â phosib yn dod i weld y cwiltiau cyn i’r ganolfan gau. Fe fyddai’n drueni iddyn nhw golli’r cyfle.”

Ei bwriad nawr yw teithio i America i weld ei brawd sy’n byw yn Tennessee – ei hymweliad cyntaf ers 10 mlynedd.

“Mae’r cwiltiau yn dal i fod yn hynod o bwysig i mi a dw i’n gobeithio y bydd pobol yn galw draw i’w gweld nhw, eu prynu nhw a’u rhoi nhw ar eu gwlâu. Wedi’r cyfan, cafodd y cwiltiau yma eu gwneud er mwyn cael eu defnyddio. Dw i’n credu y dylen nhw gael eu gweld a’u rhannu – neu beth yw’r pwynt o’u cael nhw?”

Jen a’r cwiltiau – y cefndir

Pan ddaeth Jen Jones i Gymru yn 1970 doedd hi erioed wedi meddwl y byddai’n dod yn arbenigwraig ar gwiltiau Cymreig.

Fel actores ifanc o America y daeth hi i’r Deyrnas Unedig yn wreiddiol cyn cwrdd â’i gŵr, y diweddar Elwyn Jones, y sgriptiwr o Gwm Aman a fu’n gyfrifol am gyfresi poblogaidd y cyfnod, Z Cars a Softly Softly.

Dim ond drwy hap a damwain y daeth Jen Jones i wybod am hanes y cwiltiau Cymreig, meddai.

“Mae cartref fy nheulu yn New England ond roedd fy nhad yn gweithio gyda Gwasanaeth Tramor yr Unol Daleithiau felly gawson ni ein magu dramor. Ro’n i’n gwybod ychydig am gwiltiau Americanaidd ond dim llawer – dw i ddim hyd yn oed yn gallu gwnïo.

“Ond, yn New England, mae yna ddywediad – os oes gyda chi gwilt, does dim ots os mai cerpyn yw e mae e’n dal i fod yn drysor teuluol!”

Sioc a siom felly oedd gweld sut yr oedd yr hen gwiltiau gwlân Cymreig yn cael eu defnyddio pan ddaeth hi i Gymru.

“Ro’n i’n byw yn y wlad ac yn eu gweld nhw’n cael eu defnyddio ar dractorau ac ar gyfer gwartheg. Roedd yn ofnadwy gweld beth oedd yn digwydd i’r cwiltiau.

“Ac wedyn ro’n i’n digwydd bod mewn ocsiwn yn prynu dodrefn ac roedd pentwr o gwiltiau wedi cael eu rhoi yng nghornel yr ystafell. Pan ddaeth yr ocsiwn i ben mi ddywedodd yr ocsiwnïer, ‘oes rhywun eisiau’r rhain? Pwy wnaiff roi £1 amdanyn nhw?’ Doedd neb eu heisiau nhw, felly wnes i eu prynu nhw.

“Dw i mor falch mod i wedi dod yma pan wnes i achos roedd rhai o’r cwiltiau bendigedig yma mewn perygl.”

Erbyn hyn, meddai Jen Jones, maen nhw’n cael eu cymharu gyda gwaith celf fodern – “mae rhai yn dweud eu bod nhw’n edrych fel gwaith [yr artist Mark] Rothko. Maen nhw’n anhygoel.

“Mae jest meddwl am wnïo rhywbeth mor gain oedd mor fawr ac mor drwm.. ac eto doedd y merched yn y cymunedau oedd yn gwneud y cwiltiau yma ddim yn ystyried eu hunain yn artistiaid neu hyd yn oed yn grefftwyr, dim ond gwneud beth oedd ei angen. Roedden nhw’n ddiymhongar iawn.”

O’r diddordeb yma mewn cwiltiau fe sefydlodd Jen Jones ei siop yn yng Ngheredigion, ger Llanybydder, yn gwerthu’r cwiltiau a blancedi Cymreig. Mae ei siop hefyd wedi sicrhau’r Warant Frenhinol gan werthu rhai cwiltiau i’r Tywysog Charles sydd â chartref – Llwynwermwd – yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae e wrth ei fodd gyda thecstilau o Gymru ac rydyn ni wedi gallu ei helpu i ddarparu rhai eitemau ar gyfer ei gartref yma. Maen nhw wedi mynd i gartref da iawn!”