‘Gofid’ o golli cwad o ardal Harford

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Beic modur cwad ar fferm

Rhybudd i ffermwyr yr ardal fod yn ‘wyliadwrus’

Mae colli beic modur o glos ei fferm ger Harford, Pumsaint wedi bod yn “ofid” ac yn “rhwystredigaeth”, yn ôl Justin Jones.

Yn ôl y ffermwr, cafodd y cwad ei ddwyn o’i fferm ar “noson gynta’r Ffair Aeaf” yn Llanelwedd ar Dachwedd 24, 2017 ac, ers hynny, mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod cyfres o feiciau cwad wedi’u dwyn o’r ardal gan gynnwys rhai o ffermydd ger Ffarmers, Llangadog a Myddfai.

Maen nhw’n rhybuddio ffermwyr yr ardal i fod yn “wyliadwrus” am droseddau o’r fath.

‘Rhwystredig’

Ers colli’r cwad mae Justin Jones yn esbonio fod ei deulu wedi gorfod prynu beic arall gan bwysleisio’i werth ariannol a’i werth i’r fferm.

“Mae’r ffaith fod rhywun wedi bod ar y clos ac yn gwybod yn gywir ble’r oedd y cwad yn ofnadwy,” meddai gan ychwanegu fod cloeon wedi’u torri i gael ato.

“Chi’n gweithio’n galed i dalu am rywbeth, ac mae’r cwad mor bwysig i waith ffarmwr,” meddai gan ddweud ei fod yn bwysig i fwydo’r creaduriaid a chadw golwg ar bethau.

Yn ôl Justin Jones, mae troseddau gwledig yn “dal i ddigwydd” a bod hynny’n “rhwystredig iawn.”

Trefniadau diogelwch

Mae’r Rhingyll Andrew Williams yn annog ffermwyr i dynnu allweddi o’r cwadiau ar ôl eu defnyddio, cloi siediau a pheidio â chadw offer mewn mannau heb drefniadau diogelwch.

“Rwy’n ymwybodol fod dwyn beiciau cwad a pheiriannau amaethyddol yn amharu ar waith ffermwyr, yn ogystal â chyfrannu at oblygiadau ariannol,” meddai.

Mae’n ychwanegu fod yr heddlu’n ymchwilio i’r adroddiadau ac yn ymweld â’r ardal yn gyson ynghyd â chynnal cyfarfodydd mewn arwerthiannau amaethyddol.

1 sylw

Ann Jones
Ann Jones

Gyda pob parch i’r Rhingyll Andrew Williams, os ydych chi wedi cloi a mae allwedd y beic yn ddiogel……os yw pobl am ddwyn, maent yn mynd i wneud…dyna yw’r gofid i’r ffermwr.

Mae’r sylwadau wedi cau.