Er gwaethaf rhagolygon tywydd garw, aeth Gorymdaith Gŵyl Dewi cyntaf Llanbedr Pont Steffan ymlaen heddiw (2il Mawrth 2018). Oherwydd y tymheredd isel, penderfynwyd lleihau llwybr yr orymdaith fel bod pawb ddim allan yn yr oerfel am rhy hir, a newid pen y daith i Neuadd Buddug.
Gyda’r Maer a’r Maeres yn arwain, gadawodd yr Orymdaith Neuadd y Dref, a mynd ar hyd Stryd Fawr a Sryd y Coleg cyn i bawb cael paned yn Neuadd Buddug. Cafwyd anerchiadau gan y Maer, Y Cyng. Hag Harris, a Gilian Elisa, cyn cyhoeddiad bod y Parlwr Pincio wedi ennill y wobr am ffenest siop orau Gŵyl Dewi. Canodd barti o Gôr Meibion Cwmann a’r Cylch i orffen y dathliad.
Syniad Dirprwy Faer y Dref, Y Cyng. Ann Bowen Morgan, oedd cynnal orymdaith i ddathlu ein naddsant, a daeth grŵp o bobl o’r gymuned ar y cyd â rhai o Gyngor y Dref i drefnu’r orymdaith. Roedd bwriad cynnig gig ar nos Sadwrn, ond oherwydd yr tywydd, mae hyn wedi’i ohirio. Cadwch eich tocynnau – byddwn yn cyhoeddi dyddiad newydd yn fuan.
Roedd yr ysgolion lleol ar gau oherwydd y rhybuddion tywydd, ond daeth cynrychiolwyr o Ysgol Bro Pedr a nifer o fudiadau gan gynnwys Merched y Wawr, Sefydliad y Merched, Capel Noddfa, Capel Bethel Parc-y-rhos, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Capel Brondeifi, y Ford Gron, Ambiwlans St Ioan ac eraill. Roedd tua 70 o bobl yn yr orymdaith!
Gyda chymaint o ddigwyddiadau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi wedi’u gohirio neu ganslo, roedd yn braf bod modd dal ati yn Llanbedr Pont Steffan. Hoffem ddiolch i bawb ddaeth allan i gefnogi, ac yn arbennig i’r Heddlu, Ambiwlans St Ioan a’r rhai oedd wedi gwirfoddoli i stiwardio.
Buasai Ann Morgan yn fodlon iawn cymryd unrhyw awgrymiadau ar gyfer yr ail orymdaith flwyddyn nesaf.
Roedden ni wedi dewis yr 2il eleni fel bod yr ysgolion yn gallu cymryd rhan – yn anffodus roedden nhw ar gau oherwydd y tywydd. Bydd yn rhaid i ni weld beth yw’r posibiliadau ar gyfer 2019 ond rydym yn bwriadu trefnu gorymdaith eto.