Mentrwch i Dafarnau Llambed dros Benwythnos Rhyng-Gol

gan Alwyn Evans
Ivy Bush, Llambed.
Ivy Bush, Llambed.

Erioed wedi pendroni pa dafarnau sydd yma’n Llambed i fynd i fwynhau ynddynt? Pa rai sy’n cynnig beth? Dyma i chi flas ar dafarnau mwyaf poblogaidd tref Llambed, a beth sydd i’w gynnig ar drothwy’r Eisteddfod Ryng-Golegol.

Clwb Rygbi

Wrth yfed yn y Clwb Rygbi, ar Ffordd y Gogledd (a adnewyddwyd yn y blynyddoedd diwethaf), mae ‘na ddigon o le i grwpiau mawr o fyfyrwyr! Mae’r Clwb Rygbi’n lle bendigedig i yfed ar Nos Wener neu Nos Sadwrn, gyda gwahanol gemau yn cael eu chwarae drwy’r amser a’r cwrw’n fendigedig! Byddwch wir yn mwynhau’r Clwb Rygbi!

Bush

‘Alchohol! Because no good story ever began with a salad!’ – Dyma’r arwydd tu allan i’r Bush, sydd ar y sgwâr yng nghanol y dre’, a dyma i chi dafarn lle cewch yfed gwerth eich arian a mwynhau wrth glywed y Jukebox. Y Bush fydd un o’r llefydd rhataf gan fod fodca a lemonêd dan £2 fel arfer – bargen! Hefyd, bob nos Wener mae ‘na Karaoke yn y Bush, lle allwch ganu’r hen glassics neu’r caneuon mwya’ diweddar! Mae ‘na rywbeth i bawb yma!

Gwesty'r Castell
Gwesty’r Castell

Castle Hotel

Wrth ddod allan o’r Bush, gallwch fynd i’r chwith tuag at y Stryd Fawr, i gyfeiriad y Castle. Wrth fwynhau yn y Castle, gallwch chwarae pŵl, chwarae dartiau, gwrando ar gerddoriaeth a chymdeithasu! Unwaith eto, mae’r prisiau yn rhesymol ac yn ddigon rhad am beint! Mae ‘na ddigon o le i grwpiau mawr fod yma i siarad, canu neu gweiddi siantiau! 

The Royal Oak

Dros ffordd o’r Castle mae’r Royal Oak. Yn wir, yr Oak yw un o’r llefydd gorau! Ail-agorodd yr Oak y llynedd ar ôl cael ei adnewyddu, a dyma i chi un o lefydd gorau yn nhref Llambed. Mae’r Oak yn un o’r llefydd cŵl am gerddoriaeth ac mae’r awyrgylch glos yn denu pawb i yfed cwrw da a chymdeithasu. Dyma un o’r llefydd gorau i fod ar ddiwedd eich noswaith, cyn y ‘loc in’! Lle perffaith ar gyfer myfyrwyr! 

Mavis a Bryan, Llain y Castell.
Mavis a Bryan, Llain y Castell.

Llain y Castell (Castle Green) 

Mae ‘na dafarn boblogaidd iawn yn Llambed sy’n dipyn o gyfrinach gudd, sef Llain y Castell ar Heol y Bryn! Mae awyrgylch y dafarn yn un hamddenol iawn, yn lle tawel, ond yn chwarae cerddoriaeth gytbwys at ddant pawb! Mae prisiau Llain y Castell yn rhai rhad hefyd, yn cynnwys amrywiaeth o ddiodydd a bwyd cartref!

Tafarn Cwmann

Ydych chi’n berson heini, sy’n teimlo fel cerdded rhyw filltir dros y Bont Teifi i Dafarn Cwmann yn Sir Gaerfyrddin? Gallwch hefyd gael bwyd bendigedig yn Nhafarn Cwmann tra’n yfed eich peint!

Nags Head

Dyma eto un o’r llefydd gorau yn Llambed, sydd ar Stryd y Bont. Newydd agor mae Nags yn y dref hefyd, gyda’r adnewyddiad yn gwneud awyrgylch y dafarn yn un gyfeillgar gyda phawb yn hapus. Unwaith eto mae ‘na Jukebox yn y Nags gyda’r cyfle i ganu’n wyllt drwy’r nos! Cewch amser cofiadwy gyda’ch ffrindiau yma!

 

Dyma i chi deimlad o beth sydd yn nhafarnau Llambed. Bydd gennych ddigon o ddewis, ac mae ‘na rywbeth i bawb, gyda’r tafarnau a’r llefydd bwyd yn gyfeillgar a chroesawgar iawn, ac ond tafliad carreg o leoliad yr Eisteddfod Ryng-Gol. Byddwch siŵr o fwynhau a chreu atgofion difyr y byddwch yn cofio am weddill eich oes!

Cliciwch yma er mwyn lawrlwytho map o Fwytai a Thafarnau Llambed.