Menywod yn Arwain

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Am 7 o’r gloch ar nos Fawrth, y 19eg o Fehefin cynhelir digwyddiad o’r enw “Menywod yn Arwain” yn festri Brondeifi, Llanbedr Pont Steffan er mwyn cydnabod pwysigrwydd menywod fel arweinwyr cymunedol yng Ngheredigion.

Dros y deufis diwethaf mae Cered a Theatr Felinfach wedi bod yn cynnal cyfres o Sgyrsiau Dysgu Agored o gwmpas y sir fel rhan o’u cynllun Academi Bro. Caiff yr Academi Bro ei ariannu trwy gynllun Cynnal y Cardi sef cyllid Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Thema’r Sgwrs gyntaf a gynhaliwyd yn Aberystwyth dechrau mis Mai oedd rhannu arfer da o hybu’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig i ymwelwyr gyda phanel o unigolion profiadol yn y maes. Yn hwyrach ym mis Mai fe gynhaliwyd ail Sgwrs y gyfres yn Llandysul gyda chynulleidfa dda yn croesawu dau o’r unigolion hynny sydd wrthi yn chwyldroi Bro Ffestiniog gyda’u mentrau cymunedol arloesol. Fe fydd ein Sgwrs olaf felly yn cloi cyfres o drafodaethau difyr a chwestiynau craff.

Teitl y Sgwrs olaf fydd “Menywod yn Arwain” a bwriad y noson yw i wrando ar brofiadau menywod sydd wedi bod yn weithgar fel arweinwyr yn eu milltir sgwâr ac eu meysydd nhw ac i ystyried pa anawsterau maent wedi gorfod dygymod â oherwydd eu bod yn fenywod. Fe fydd y digwyddiad yn cynnwys panel o bedair menyw adnabyddus a gwrthgyferbyniol a fydd yn cyflwyno eu hanes a’u profiadau ac yna mi fydd cyfle am gwestiynau o’r gynulleidfa a thrafodaeth.

Ar y panel fydd:

Y Cyng. Ann Bowen Morgan – Er ei bod yn wreiddiol o’r Gogledd, mae Ann wedi bod yn hynod o weithgar yn lleol ers ymgartrefu yn Llambed. Hi yw Maer Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, sefydlydd y Parêd Gŵyl Dewi ac mae’n aelod blaengar o Gapel Noddfa, Merched y Wawr, Côr Corisma a Phwyllgor Eisteddfod y dref.

Bronwen Morgan – Tan fis Medi llynedd roedd Bronwen yn Brif Weithredwr ar Gyngor Sir Ceredigion  am gyfnod o ddeng mlynedd. Cyn ei ymddeoliad, ond hi a dwy fenyw arall oedd yn Brif Weithredwyr ar awdurdod lleol yng Nghymru. Mae Bronwen hefyd yn aelod blaengar o’r Eglwys Bresbyteraidd.

Helen Howells – Yn 2016 fe sefydlodd Helen gwmni ymgynghorol Hwylus. Arbeniga Hwylus mewn cynaliadwyedd, datblygu cefn gwlad, dyfeisgarwch a dehongli treftadaeth. Mae Helen hefyd yn rhedeg cynllun o’r enw Merched Medrus sydd yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i fenywod busnes yng Ngheredigion (Twitter: @hwylustweets / Facebook: @hwylus)

Heulwen Ann Davies – Heulwen yw sefydlydd Mam Cymru sef y blograwn dwyieithog cyntaf er mwyn rhannu erthyglau, adolygiadau a phrofiadau gan famau Cymru ar gyfer mamau Cymru. Yn ogystal â hyn mae llyfr o’r un enw wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar (www.mamcymru.wales)

Yn cadeirio’r noson ac yn cadw trefn ar y panelwyr a chwestiynau’r gynulleidfa fydd Sian Elin Williams, ysgrifenyddes Clwb Ffermwyr Ifanc Cwmann. Mae Sian Elin newydd ddechrau dwy rôl gyffrous yn y misoedd diwethaf. Hi yw un o ddirprwyon CFfI Sir Gaerfyrddin eleni ac mae newydd gychwyn fel Swyddog Datblygu Ardal Caerfyrddin i Fenter Iaith Gorllewin Sir Gâr.

Bydd y noson yn dechrau am 7 o’r gloch y.h. yn Festri Brondeifi felly dewch draw am noson ddifyr. Mae croeso cynnes i fenywod ac i ddynion wrth gwrs!

Am fanylion pellach cysylltwch gyda Cered ar cered@ceredigion.gov.uk neu 01545 572 350.