Newidiadau i Wisg Ysgol Bro Pedr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
www.bropedr.ceredigion.sch.uk
www.bropedr.ceredigion.sch.uk

Yn dilyn ystyriaeth fanwl Llywodraethwyr Ysgol Bro Pedr o’r ymatebion i’r ymgynghoriad diweddar ynglŷn â’r wisg Ysgol, y penderfyniad yw na fydd crys a thei yn cael eu cyflwyno o Fedi 2019 ymlaen ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7 – 11.

Serch hynny, cyhoeddwyd y bwriedir newid ychydig o wisg Ysgol y Chweched Dosbarth o Fedi 2019 ymlaen drwy gyflwyno crys gwyn a thei (traddodiadol) porffor.

Roedd Cyngor yr Ysgol a’r Llywodraethwyr wedi cyhoeddi eu bod am newid rywfaint ar y wisg Ysgol ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7 – 13.  Roedd hyn yn golygu y byddai’r wisg ysgol yn fwy ffurfiol. 

Y newidiadau arfaethedig oedd:

Blwyddyn 7-11: crys piws golau, tei clip-on gyda streip llwyd/porffor

Blwyddyn 12-13: crys gwyn a thei porffor tywyll (gyda logo’r Ysgol)

Byddai’r newid yma wedi golygu mai ond yn nhymor yr Haf y byddai hawl gyda’r disgyblion i wisgo’r crys polo porffor (neu grys polo gwyn, yn achos y Chweched Dosbarth).

Roedd yr ysgol wedi gofyn am adborth gan rieni a warcheidwaid erbyn 29 Mehefin, a chyhoeddwyd yr wythnos hon mai dim ond newid i wisg ysgol y Chweched Dosbarth fydd yn digwydd.

Beth yw’ch barn chi am hynny?  Oes angen newid gwisg y Chweched Dosbarth?  Beth am weddill yr ysgol?

Gan fod y tywydd wedi bod mor dwym yn yr wythnosau diwethaf, bu’r ysgol mor hyblyg a phosib.  Roedd hawl gan y disgyblion wisgo trowsusau byrion plaen, du wedi’u teilwra hyd y ben-glin tan ddiwedd tymor, os oedd y disgyblion yn dymuno gwneud hynny.