Perfformiad Milwr yn y Meddwl

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Perfformir Drama fuddugol Cystadleuaeth Medal Ddrama, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn y llynedd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

Heiddwen Tomos o Bencarreg oedd enillydd llwyddiannus y Fedal Ddrama ac awdures Milwr yn y Meddwl.

Mae Ned wedi dod adref i orllewin Cymru o faes y gad. Ond mae ei brofiadau diweddar yn rhyfel Irac wedi gadael creithiau dyfnion; rhai’n greithiau gweledol, ac eraill — y rhai dyfnaf — yn anweledig.

Dyma ddrama newydd, ddirdynnol sy’n archwilio effaith trawma ar filwr o Gymro, wrth iddo ef a’i deulu geisio dod i delerau â digwyddiadau erchyll o’i orffennol a’r heriau newydd sy’n ei wynebu. Mewn stori oesol am gariad a pherthyn, a fydd cwlwm câr yn drech na’r bwled a’r bom?

Y cast yw Aled Bidder, Ceri Murphy, Elin Phillips a Phylip Harries.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman yn gweithio mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac yn lwyfannu’r ddrama yn Theatr y Maes, Canolfan Mileniwm Cymru o Ddydd Llun 6ed tan Ddydd Gwener 10fed Awst am 6 o’r gloch yr hwyr.  Mae tocynnau’n £10 ar gael o’r ganolfan.