Rasys Cledlyn Cylch Meithrin Cledlyn

gan Caryl Davies

Ar brynhawn braf o Sul yng nghanol mis Gorffennaf fe gynhaliwyd Rasys Cledlyn ar safle ysgol Dyffryn Cledlyn er mwyn codi arian ar gyfer cronfa Cylch Meithrin Cledlyn.

Agorwyd y digwyddiad gyda llywyddion y dydd sef Gareth a Mary Davies, Maesglas, Drefach.

Dechreuodd y daith dractorau am 2.30 ar gyfer y plantos bach. Roedd nifer o dractorau lliwgar wedi ymgynnull ar iard yr ysgol, a phob plentyn wedi derbyn rhodd gan Gontractwyr Sisto am eu hymdrechion. Da iawn chi blantos.

Yn dilyn y daith dractorau, aeth pawb i’r neuadd ar gyfer yr ocsiwn. Roedd nifer o eitemau wedi cael eu cyfrannu gan fusnesau/cwmniau lleol.

Roedd y neuadd yn llawn dop o fobl a phlant yn mwynhau dished o de a chacen blasus. Bu’r stondin ‘Peintio Wynebau’ yn brysur drwy’r prynhawn gyda nifer o’r plant yn trawsnewid i fod yn bili-pala neu deigr. Yn dilyn yr ocsiwn aeth y plant cynradd i’r cae i gystadlu mewn rasys rhedeg, bag ffa ag wy a llwy.

Roedd gwobrau ariannol ar gyfer y tri cyntaf ymhob ras. Roedd pawb wedi mwynhau cystadlu ac yn barod am fwyd. Diolch byth roedd digon o fwyd blasus wedi cael eu paratoi ar y barbeciw.

I orffen y prynhawn fe wnaeth pawb ymgynnull o flaen yr ysgol ar gyfer y raffl ar ras beli. Rhyddhawyd dros 700 o beli i gyd, gyda gwobrau ariannol ar gyfer y 3 pel cyntaf. Llongyfarchiadau i Henry Clarke ar ennill y wobr cyntaf o £50.

Prynhawn llwyddiannus iawn, gydag £3,196.80 wedi cael ei godi at gronfa y Cylch Meithrin.

Hoffai staff a phwyllgor y Cylch Meithrin ddiolch o galon i bawb ddaeth i gefnogi, pawb oedd wedi cyfrannu i’r stondinau, raffl ar ocsiwn, y noddwyr yr helpwyr ar trefnwyr, Ysgol Dyffryn Cledlyn a llywyddion y dydd- Gareth a Mary, Maesglas, Drefach !?