Reparo peips dŵr ac ambell gyfrinach arall

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

David Heath o Lanbed sy’n datgelu cyfrinachau yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc.

Reparo peips dŵr gyda J D Evans Cyf yw ei waith o ddydd i ddydd ac mae e wrth ei fodd yn dod i adnabod ardaloedd newydd yn ddyddiol. “Dw i di bod ym mhob twll a chornel o Geredigion a Sir Gâr credwch chi fi!” meddai.

Mae ganddo atgofion melys o dreulio ei blentyndod ar Fferm Cwmhendryd ac mae’n cofio “mamgu Cwm” gydag pharch.

Ond beth yw ei lysenw?  Sut fyddai’n gwario £10,000?  Beth oedd yr eiliad balchaf iddo’n broffesiynol? A phwy oedd y dylanwad mwyaf arno?  Cewch wybod y cyfan yn y rhifyn cyfredol o Bapur Bro Clonc.

Cafodd yr anrhydedd o fod yn gadeirydd CFfI Felinfach wrth iddynt gynnal Rali’r Sir eleni, ac mae’n siarad yn annwyl am ei ddiweddar frawd Aidran.

Tudalen ddiddorol iawn yw tudalen ‘Cadwyn Cyfrinachau’ y mis hwn.  Gwnewch yn siwr eich bod yn prynu copi.  Pam Dai-gestive?  “Joio bod yn bach o gowboi!” a “Na be oedd moelad!”  Dyma i chi flas yn unig o’r hyn sydd ganddo i’w adrodd.