Rhaid dal ati i drafod a rhannu syniadau, neges Twynog i’r ffermwyr

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Twynog
Twynog

“Mae’n bwysicach nag erioed i ffermwyr dynnu at ei gilydd a thrafod eu dyfodol.” Dyna oedd neges sylfaenydd cymdeithas amaethyddol yn Llanbed wrth iddi ddathlu ei 40fed pen-blwydd.

Twynog Davies o Bentrebach oedd y gŵr gwadd mewn cinio i ddathlu sefydlu Cymdeithas Drafod Amaethyddiaeth Llanbed ac fe ddywedodd bod yr angen am gyd-drafod lawn cymaint ag yn y dechrau.

Gyda’i lygad ar heriau gadael yr Undeb Ewropeaidd, fe ddywedodd ei bod yn bwysig i ffermwyr drafod problemau a chadw llygad ar ddatblygiadau newydd, gan rannu profiad a syniadau da.

Y cefndir

Twynog Davies oedd y sbardun i sefydlu’r Gymdeithas ar ôl iddo symud i’r ardal, ac yntau’n swyddog gyda gwasanaeth amaethyddol ADAS ar y pryd.

Roedd wedi cael profiad o weld cymdeithasau amaethyddol yn gweithio mewn ardaloedd eraill ac fe benderfynodd fod angen sefydliad tebyg yn ardal Llanbed hefyd.

Roedd y Gymdeithas wedi llwyddo’n rhyfeddol, meddai, gyda chyfarfodydd trafod cyson a nifer o ymweliadau â ffermydd lleol a phell.

Llwyddiant

Roedd amryw o aelodau’r Gymdeithas wedi cael llwyddiant mawr tros y blynyddoedd mewn cystadlaethau cenedlaethol, meddai Twynog Davies, ac roedd nifer o swyddogion lleol wedi gwneud gwaith mawr yn ei chynnal hi tros y blynyddoedd.

“Mae ffermio wedi newid yn ofnadw ers y dechrau 40 mlynedd yn ôl,” meddai, “a fy neges i yw fod yr angen gymaint ag erioed am drafod a rhannu syniadau.”