Bu llai o gystadlu yn Sioe Amaethyddol Llanbed eleni yn ôl Llywydd Gwasanaeth Carolau a gynhaliwyd yng Nghapel Brondeifi neithiwr.
Bu Ian Evans, Egsairmaen yn areithio ar y noson a dywedodd fod rheolau ynglyn â symud anifeiliaid a ddaeth i rym eleni wedi rhwystro nifer fawr o berchnogion anifeiliaid rhag cystadlu.
Ni ellir symud anifeiliaid fferm o fewn saith diwrnod, sy’n rhwystro ffermwyr rhag mynd i sawl sioe i gystadlu o fewn cyfnod byr.
Cymdeithas Amaethyddol Llanbed a drefnodd y Gwasanaeth Carolau gan godi arian tuag at y sioe ac at elusen Beiciau Gwaed Cymru. Daeth tyrfa dda i gefnogi’r gwasanaeth o dan arweiniad Manon Richards.
Cyhoeddodd Ian Evans hefyd y bwriedir newid dyddiad y sioe yn 2019 i fis Gorffennaf er mwyn ceisio tynnu rhagor o gystadleuwyr a pheidio amharu â sioeau eraill o fewn cyfnod y rheolau.
Bu Ian yn aelod o bwyllgor y sioe ers blynyddoedd a chofia gystadlu pan yn iau fel aelod o’r ffermwyr ifanc. Ei neges ym Mrondeifi neithiwr felly oedd ei fod yn gobeithio gweld y sioe yn mynd o nerth i nerth. Pwysleisiodd pa mor bwysig yw digwyddiad fel Sioe Llanbed yn nghalendr y dref ac i’r gymuned amaethyddol ehanghach.
Croesawyd pawb i’r gwasanaeth gan Daniel Morgan. Gwnaed y darlleniad a’r weddi gan Melda Grantham a’r fendith gan Goronwy Evans. Cymerwyd rhan gan ieuenctid Brondeifi a chyfeilwyd gan fand y capel sef Alun Wyn, Helen, Hywel a Pete.
Cafwyd naws hyfryd y Nadolig i’r noson, ac i orffen gwahoddwyd pawb i’r festri am luniaeth ysgafn blasus a chlonc a drefnwyd gan Delyth Jones ac aelodau Brondeifi a phwyllgor y sioe.