Rhowch imi dŷ ar fin y ffordd

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Cefnhafod

Rhowch imi dŷ ar fin y ffordd

Lle treigla’m hil yn llu,

Dynion da a dynion drwg,

Mor dda, mor ddrwg â mi.             

Eirwyn Ponstian

Ers 1959, mae tafarn Cefnhafod, Gorsgoch wedi bod yn ein teulu ni. Mam-gu a Tad-cu sef Dannie a Martha Davies oedd wrth y llyw rhwng 1959-1991 ac yna Mam a Dad, sef Geraint ac Eiddwen Hatcher nes nawr. Yma, ar fin y ffordd fawr, bu cenedlaethau o werin gwlad yr hen Sir Aberteifi yn troi fewn yn eu tro i ddiwallu eu hanghenion. Amrywia rheiny o eisiau diod neu fwyd, i’r angen am sgwrs neu gwmni. Rhai i chwarae darts, tip-it neu goets ac eraill i bwyllgora. Dyddie da!  Ond rhaid i bopeth da ddod i ben, a daeth yr amser i gau drysau’r hen dafarn… am y tro?

Dros y degawdau, datblygodd Cefnhafod yn gadarnle’r werin a Chymreictod ac yn ganolbwynt cymdeithasol i’r trigolion lleol. Bu’n gyrchfan i ddiddanwyr bro fel Eirwyn Pontshân (llun) a Thydfor a’i adar a gwyddai’r sipsiwn a’r tramps hefyd am y croeso. O gyplysu’r rheina gyda’r trwch gref o ddiwylliant lleol, pa ryfedd i’r lle flaguro fel tafarn y werin.

Nodwedd bwysicaf a mwyaf unigryw’r tafarn yw’r organ enwog. Canwyd sawl cân a sarnwyd sawl peint ar allweddau’r organ fach hon dros y blynyddoedd. (llun isod) Piano oedd yn cael ei ganu pan ddaeth Dad-cu a Mam-gu yma gyntaf, ond wrth i’r arferiad o gael ‘sing-song’ gryfhau, yn 1967 prynwyd organ Hammond. Wedi’r organ hon, daeth organ mwy modern eto, sef y Yamaha, ac yna Wurlitzer, a hon sydd yma heddiw. Yn ystod noson olaf Mam a Dad wrth y llyw, roedd y tafarn yn fôr o ganu, gyda Mam yn canu’r organ fel arfer.

Mae wedi bod yn gyfnod hapus iawn i ni fel teulu, ond daeth amser nawr i rywun arall i dynnu’r peints. Diolch i chi, y gymuned, am eich cefnogaeth diflino a’ch cyfeillgarwch ffyddlon. Roedd Dic Jones yn llygad ei le-

 

“Mae cwrw gwell na’i gilydd,

Er nad oes cwrw gwael,

Ond man lle bo’ nghyfeillion,

Mae’r cwrw gore’i gael”

 

Iechyd da i chi gyd a diolch o galon

1 sylw

Barbara iller
Barbara iller

Oedd Danny yn gefnder i Dai. Myrddin Jones o Lanllwni. I fi, yn cofio mynd i’r dafarn yn Gorsgoch gyda fe. I fi yn cofio Danny a Martha yn dda.
Barbara (Pentop)

Mae’r sylwadau wedi cau.