Teithiau Tal-y-llychau a Llanfihangel Rhos y Corn

gan Alun Jones
Talyllychau
Talyllychau

Dyma gyfuniad o hanes dwy daith a arweiniais i Gymdeithas Edward Llwyd yn ddiweddar, gyda’r tywydd yn amharu ar y cerdded mewn gwahanol ffyrdd.

Bwriad taith cannol mis Mehefin oedd ymweld â Pigyn Sion Niclas ar fynydd Llansadwrn, ond oherwydd y niwl trwchus a’r glaw mân amharwyd ar yr olygfa. Cyfeiria’r enw Pigyn Sion Niclas at adeilad ar ffurf twr pigfain a godwyd gan Syr Nicholas Williams (1681-1745), Plas Rhydodyn, ond yn ôl hanes dinistrwyd yr adeilad gan fellten, a’r enw yw’r unig atgof heddiw.

Bwriad o’r cychwyn oedd peidio sôn am Fynachlog Tal-y-llychau man cychwyn y daith ond canolbwyntio ar flodau gwyllt y daith, a gwnes arddangosfa o flodau meddyginiaethol y byddai y Mynachod gynt wedi defnyddio rhwng 1187-1535 tuag at anhwylderau fel annwyd, diffyg traul, gwynegon a’r croen.

Dyma enwau rhai o flodau y daith, Gwyddfid, Gellesgen, Llaeth y gog, Garlleg y berth, Coesgoch, Serenllys mawr, Clychau’r gog, Gorthyfail, Llygad doli, Blodyn neidr, Suran y coed, Tresgl y moch, Taglys y berth, Ffagbys fwy nag un rhywogaeth.

Capel Carmel
Capel Carmel

Ie gwlyb a diflas oedd y cerdded a balch oeddem i gael lloches hen dŷ gwair a ffermdy Bwlchgwyn, i gael cinio cyn cyrraedd mynydd Llansadwrn niwlog. Yna cerdded heibio Capel Carmel Llansadwrn a beniweired nôl am Dal y llychau, ond taith i’w gwneud eto, ar ddiwrnod fwy ffafriol.

Dechrau Mis Gorffenaf arwain cylch daith oedd wedi ei pharatoi gan Mrs Ann Phillips Pencader o Fynydd Llanfihangel Rhos y Corn i Gwernogle. Roedd Ann wedi paratoi nodiadau trwyadl ar gyfer fi a’r cerddwyr. Tybiaf fod coed wedi gwreiddio yma er cyn cof, gan fod Coedwig Brechfa fel y gelwir heddiw, neu ei hen enw gwreiddiol Glyn Cothi, a gafodd statws Coedwig Frenhinol Glyn Cothi gan Edward 1af yn 1283 yma erioed. Gweld man geni Tomos Glyn Cothi ar ei newydd wedd yn y pentref.

Diwrnod crasboeth ydoedd, a balch oeddem i gael cysgod ambell gwm, gan i ni droedio lawr cwm afon Marlais a dringo i fyny cwm afon Clydach, afon Clydach yn tarddu o Ffynnon Nant To ar fynydd Llanllwni, y ddwy afon yn arllwys i’r Cothi. Tybir mae ffurf Gwyddelig yw gair Clydach sy’n dynodi ‘afon gerigog wyllt’ ac sydd yn llifo drwy bentref Gwernogle, neu Gwarnogau ar lafar, ond pentref sydd bron yn ddi Gymraeg erbyn hyn. Y cwympwyr coed wedi mynd ynghyd â’r scalpwyr a’r rhysglwyr, ie peiriant un dyn yn gwneud y cyfan heddiw, rhysgyl y coed derw yn werthfawr i’r dywidiant lledr gynt.

Gwernogle
Gwernogle

Mae enwau cyfoethog ar ffermydd yr ardal fel y canlyn, Gilfach Meredydd Hendre-fadog Cae’r-blaidd Rhiw saithbren a Hafod Tridrws. Yn ychwanegol dyma enwau yr elltydd a welsom ar ein taith, sydd erbyn hyn yn dod dan enw Fforest Brechfa. I’r chwith a’r dde o Afon Marlais gwelsom Allt Pant y Rhyg, Allt Llawr Porth, Allt Gwastadau, Allt Esgair Hir, Allt Goch, Allt Penrhiw Lwyd, Allt y Llan, Allt Gelli-grin, Meithrinfa Goed Gelli-grin.

Gelltydd Cwm Clydac: Allt Tai-cid, Allt Fawr Cwm Dinawed, Allt Fawr Gwarallt, Allt Hendre-fadog, Allt Llety’r Aderyn, Allt y Garth, Allt Coed Cadwgan, Allt Cwm y Gof, Allt Gwyn, Allt Goferi, Elltydd Llain-oleu Isaf a Uchaf.

Gobeithio bydd enwau y gelltydd hyn yn gofnod i’r dyfodol, a diolch i’r Athro David Thorne ac Allan Williams am bob cymorth i’r erthygl hyn.