Treialon Cŵn Defaid a Sioe Cwmsychpant 2018

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Cynhaliwyd Treialon Cŵn Defaid a Sioe Flynyddol Cwmsychpant a’r Cylch ar gaeau Waun, Rhydowen ar ddydd Sadwrn, Awst y 11eg trwy garedigrwydd Mrs. Ella a Mr. Vernon Davies.

Cafwyd diwrnod llwyddianus iawn unwaith yn rhagor ac eleni roedd yr elw yn mynd tuag at Diabetes Cymru.  Codwyd swm sylweddol a fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud mwy o waith ymchwil i’r maes.

Dechreuodd diwrnod y sioe yn gynnar gyda’r treialon a bu’r cŵn defaid yn rhedeg o’r bore bach tan yr hwyr. Unwaith eto eleni roedd y babell yn orlawn o gynnyrch amrywiol ac roedd y cyfan o safon uchel. Cynhaliwyd mabolgampau i’r plant yn y bore ac mi wnaeth nifer helaeth ennill rhubanau. Yn ogystal cafwyd arddangosfa o hen beiriannau a oedd yn werth i’w gweld.

Ein Llywydd eleni oedd Mrs Betty Rees, 1 Porth Terrace, Llandysul a braf iawn oedd cael ei chwmni trwy gydol y dydd. Siaradodd y Parchedig Beth Davies ar ei rhan a soniodd am ei hatgofion fel plentyn o fyw yn yr ardal. Mawr hefyd yw ein diolch iddi am ei rhodd haelionus i’r coffrau.

Ar ddiwedd y prynhawn cynhaliwyd ein gwerthiant blynyddol llwyddiannus gyda Sion Jenkins a Dewi Jones wrth y llyw. Unwaith yn rhagor gwerthwyd amrywiaeth helaeth o bethau a gyfrannwyd gan gefnogwyr y sioe a chodwyd arian sylweddol i’r elusen.

I gloi’r diwrnod penigamp, cafwyd adloniant yng nghwmni Dai Hands a’i ddisgo. Braf oedd gweld pawb o bob oed yn dawnsio i’r disgo tan oriau mân y bore. Unwaith eto eleni cynhaliwyd sesiwn ddisgo i’r plant yn gyntaf ac yna cystadleuaeth “Taclo’r Tasgau”. Cystadleuaeth i dimau o bedwar aelod oedd “Taclo’r Tasgau” a gwelwyd nifer fawr o dimau yn rhoi tro ar daclo’r pedair tasg a roddwyd iddynt ar y noson. Cafwyd llawer o hwyl gyda’r babell dan ei sang yn gweiddi a chefnogi eu timoedd. Enillwyr y tasgau eleni oedd “Tîm y ddau frawd a’r ddwy chwaer” sef Meinir Davies, Ffion Jenkins, Steffan Jenkins a Carwyn Davies. Llongyfarchiadau mawr iddynt.

Dyma restr o enillwyr y dydd: Treialon Cŵn Defaid

Cenedlaethol Agored – Idris Morgan, Trefenter. Agored De Cymru – Celfyn Braud, Llansawddog. Gwinoedd            – Megan Richards, Aberaeron. Cyffeithiau – Sirian Davies, Cwrtnewydd. Coginio – Wendy Davies, Penffordd. Gwaith Llaw – Eluned Davies, Dihewyd. Crefft – Carwyn Davies, Penffordd. Ffyn –               Keith Allen, Carew, Llanelli. Ffotograffiaeth -Marian Rees, Penffordd. Arlunio Plant Bl. 2 ac o dan – Efa Riddell, Ysgol Talgarreg. Bl. 3 a 4 – Madi Potter, Ysgol Dyffryn Cledlyn. Bl. 5 a 6 – Swyn Tomos, Ysgol Dyffryn Cledlyn

Adran Plant Dan 8 – Wil IfanWilliams, Cwmsychpant. 9 ac o dan 12 – Elen Morgan, Drefach. 12 ac o dan 17 – Meryl Evans, Talgarreg. Adran Blodau – Andrew Davies, Llandysul. Celfyddyd Blodau – Victor Edwards, Rhydowen. Cynnyrch Gardd – Elliw Grug Davies, Drefach. Adran Geffylau Pencampwr yr Adran Geffylau          – Sioned Davies, Cwmsychpant. Pencamwr yr Adran Geffylau i Blant – Martha Silvestri-Jones, Talgarreg.

Adran Ddefaid – Pencampwr Croesfrid –    Morgans, Glwydwern. Taleb gwerth £25 – Anwen Jones, New Inn

Dymuna pwyllgor Treialon Cŵn Defaid a Sioe Cwmsychpant ddiolch yn fawr iawn i’r beirniaid, y stiwardiaid, y noddwyr a phawb arall am bob cyfraniad a chymorth a dderbyniwyd er mwyn sicrhau sioe lwyddiannus arall.