Trydydd Penwythnos Dartiau

Bedwyr Davies
gan Bedwyr Davies

Dros Benwythnos Gŵyl y Banc, gwnaeth tîm cwmni hybu Dartiau sydd yn dod o Lambed, ‘Bishop of Bedlam Promotions’, gynnal eu trydydd penwythnos dartiau yng Nghlwb Rygbi Llambed.

Eleni daeth Pencampwr y Byd teirgwaith, ‘Wolfie’ Martin Adams, i’r dre a chwarae darts godidog yn erbyn chwaraewyr o’r dre ac o i ffwrdd, ac mi wnaeth ddiddori pawb a ddaeth i wylio â’i chware a’i storiau.

Hefyd yn Llambed am y Penwythnos Dartiau roedd y Band Pibau o Jedburgh o’r Alban. Gwnaethon nhw ddiddanu pawb a ddaeth i wylio’r Dartiau a hefyd gwylio y gêm rygbi yn erbyn Penybanc ac o gwmpas y dre ar y Sadwrn.

Ar y Dydd Sadwrn cynhaliwyd cystadleuaeth Dartiau Agored Llambed yn y clwb a gwnaeth 54 cymryd rhan.  Mike Rowlands o Langybi oedd yn fuddugol yn herio Tony Bradley o’r Cymoedd yn y rownd derfynol, 6 i 5.
Hefyd dros y penwythnos gwnaeth y Bois o’r Bishop’s hel arian i Prostate Cancer UK. Gwnaethon nhw godi tua £2,000 dros yr ŵyl dartiau a dod â’r cyfanwm i’r elusen dros y ddwy flynedd diwethaf i dros £10,000.

Dymuna’r tîm Bishop of Bedlam ddiolch i noddwyr y Penwythnos – Richard Jarman True Potential Wealth Management, Philip Jones Financial Solutions, Jim Hussell – Y Sioe Roc, Y Stwdio Brint, Davies & Jenkins Fencing Contractors, Siop Dartiau ‘Love The Darts’ Clwb Rygbi Llambed, Cegin Gwennog a Pies R Us o Kelso. Diolch yn Fawr hefyd i Martin a John Fowler am y Dartiau, Band Pibau Jedburgh am yr adloniant dros yr ŵyl a Tracy a Danny o elusen Prostate Cancer UK.

Bydd yr Ŵyl Dartiau yn ôl yn Mis Mai 2019 gyda Tony O’Shea a Darryl Fitton yn dod nôl i Lambed i diddanu pawb.