Wythnos fawr i adloniant ysgafn Gymraeg yn Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llanbed fydd prifddinas adloniant ysgafn Gymraeg yn y dyddiau nesaf gyda Gig Parêd Gŵyl Dewi Llanbed a Cered yn Neuadd Fictoria nos Sadwrn, a Chwmni Da yn recordio pedair rhaglen o Noson Lawen yn y Ganolfan Hamdden dros bedair noson.

Y perfformwyr ar nos Sadwrn 16eg Mehefin fydd Bryn Fôn a’r band a Beth Celyn. Cynhelir y noson yn Neuadd Fictoria, Heol y Bryn am 7.30yh. Bydd elw’r noson yn mynd i Bwyllgor Gŵyl Dewi ar gyfer Gorymdaith 2019. Mae tocynnau ar gael yn Siop y Smotyn Du, Ysgol Bro Pedr neu drwy gysylltu â Menter Iaith Cered ar 01545 572350.

Mae Bryn Fôn yn enwog fel canwr ac actor.  Cerddor a Chyfansoddwraig dalentog o Ddinbych yw Beth Celyn. Mae ei cherddoriaeth yn indie ac atmosfferig gydag arlliw gwerinol.  Bwriadwyd cynnal gig nôl ym mis Mawrth fel rhan o ddathliadau Gŵyl Dewi Cyngor y Dref, ond bu’n rhaid gohirio oherwydd y tywydd. Cofiwch gefnogi nos Sadwrn hyn felly.

Cynhelir y Noson Lawen gyntaf nos Iau’r 14eg. Recordir pob noson yng Nghanolfan Hamdden Llanbed gan ddechrau am 7.30yh a’r drysau yn agor am 7 o’r gloch.  Dyma fydd dechrau ar wledd o adloniant.  Ar y nos Iau bydd Elin Fflur yn cyflwyno’r artistiaid adnabyddus Dafydd Iwan, Delwyn Siôn, Welsh Whisperer, Gwyneth Glyn, Twm Morys, Ifan Gruffydd, Côr Seingar a Chôr Ysgol Bro Teifi.

Bydd blas ychydig mwy lleol i’r rhaglen nos Wener y 15fed gyda Chôr Adran ac Aelwyd Llanbed. Sorela fydd yn cyflwyno, a’r artistiaid eraill fydd Rhys Meirion, Colorma, Alejandro Jones, Iwan John, Côr Merched Ger y Lli, Mari Mathias a Cennydd Jones.

Ceir côr lleol nos Sadwrn yr 16eg hefyd gyda Chôr Dwynant yn perfformio ymhlith artistiaid fel Ifan Jones Evans yn cyflwyno, Ryland Teifi, Meinir Gwilym, Gillian Elisa, Boncath, Bois y Rhedyn ac Alwena Mair Owen o Lanllwni.

Cynhelir noson ola’r recordio ar nos Sul yr 17eg gyda Terwyn Davies yn cyflwyno Athena, Calan, Lowri Evans a Lee Mason, Llywelyn Ifan Jones o Felinfach, Sam Ebenezer, Côr Ysgol Gerdd Ceredigion ac Eraill.

Mwynhewch, a pheidiwch â cholli’r cyfleoedd unigryw hyn i weld artistiaid adnabyddus ar stepen ein drws.